Rhiannon Michael sy’n edrych ymlaen i’r holl wleidyddion gyrraedd yn ôl i Fae Caerdydd…
Wrth i’r haul wenu’n braf tu allan mae’n anodd iawn eistedd mewn swyddfa hanner gwag yn y Cynulliad yn ewyllysio i rywbeth ddigwydd. Mae’n hanner tymor, y gwleidyddion i gyd ar eu gwyliau yn gweithio yn yr etholaeth neu’n lawnsio hyn a’r llall yn eisteddfod yr Urdd a’r Gelli. Fel arfer, mae’r undonedd wedi hen ddechrau ar ol i’r ACau fynd adref wedi cyfarfodydd y dydd Iau. Ond ddim tro ma.
Yn gynnar fore Iau dechreuodd y sibrydion bod Carwyn Jones wedi gwneud ei benderfyniad ar ad-drefnu addysg Treganna -a’i fod wedi penderfynu gwrthod cais Cyngor Caerdydd i gau Lansdowne a symud Treganna i’w hadeilad nhw. Cue ymateb gwyllt a chandryll gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o’r Cyngor, rhieni Treganna, Cymdeithas yr Iaith a hyd yn oed Dafydd Wigley ar un llaw a dathlu a llongyfarch gan rieni Lansdowne a chynghorwyr Llafur Caerdydd ar y llaw arall. Roedd galwad am chwalu’r glymblaid ar un adeg ond fel y gwelwch chi’n Golwg wythnos yma, fydd hynny ddim yn digwydd.
Cyffro arall nid annisgwyl oedd clywed ddydd Gwener bod Alun Cairns yn gorfod aros fel AC. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig ei angen yn y siambr mae’n debyg. Eglurhad arall, nad yw’r Ceidwadwyr yn fodlon ei drafod, yw bod Chris Smart yr un fyddai’n cymeryd ei le, yn gymeriad nad ydyn nhw eisiau ei ryddhau ar y cyhoedd Cymreig. Byddai’r ffaith bod Alun Cairns am wrthod y traean o gyflog y gallai dderbyn fel AC sydd hefyd yn AS yn awgrymu hynny.
Tipyn bach mwy o syndod yw bod Mike German yn mynd. Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad wedi cael arglwyddiaeth yn y breintiau gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ei wraig, Veronica German fel yr ail ar restr y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nwyrain De Cymru fydd yn cymeryd ei le. Dim son am wasanaethu dau feistr gan blaid y sandal-garwyr felly. Difyr.
Ond ar ol dod nol i’r swyddfa wedi gwyl banc y Sulgwyn, doedd dim mwy o gyffro ym Mae Caerdydd. Mae’r gwleidyddiaeth i gyd yn digwydd draw yn y Steddfod a’r Gelli yn yn ôl yr arfer. Heddiw mae Jane Davidson yn egluro i’r Gelli pam ei bod hi am godi 7c am fagiau plastig. Draw fan hyn, un e-bost diddorol sydd wedi glanio drwy’r dydd. Mae cynghorwyr Llafur yn gandryll gyda’r cyn-gynghorwr Llafur sydd bellach gyda Phlaid Cymru, Neil McEvoy oherwydd ei lif o ddicter yma. Mae’r datganiad ddaeth ar e-bost gan y cynghorwyr Llafur yn neges Daran Hill ar y gwaelod.
Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod yr holl ddatganiadau wnaed wythnos diwethaf wedi dod pan ddaethon nhw. Mae’r gwleidyddion yn gobeithio bydd pob cyhoeddiad yn angof erbyn i bawb ddychwelyd ddydd Llun. Rwy’n ffyddiog y bydd sawl cwestiwn diddorol ganddom ni hacs yn y sesiynau briffio ddydd Mawrth a phwy a wyr beth fydd y gwleidyddion crac yn gofyn yn sesiwn holi’r Prif Weinidog yn y siambr. Edrych mlaen!