Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi beirniadu’r penderfyniad i adeiladu un o ffermydd gwynt mwyaf y byd oddi ar arfordir gogledd Cymru.

Mae’n “ergyd chwerw” i bobol leol sydd wedi ymgyrchu yn ei herbyn, meddai Darren Millar.

Cyhoeddwyd heddiw y byddai gwaith adeiladau datblygiad Gwynt y Môr yn dechrau yn y gwanwyn flwyddyn nesaf.

Ond mae Darren Millar wedi dweud fod y Llywodraeth Lafur wedi anwybyddu gwrthwynebiad mawr yn lleol, pan roddwyd caniatâd i’r cwmni RWE npower i adeiladu’r fferm ym mis Rhagfyr 2008.

“Roedd gwrthwynebiad llethol gan aelodau o’r cymunedau lleol a’r cynrychiolwyr etholedig ar bob lefel,” meddai, “yn ogystal â galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i’r cynigion.

“Mi fuaswn yn hoffi ailadrodd nad ydw i’n gwrthwynebu ynni gwynt, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymroi i gynyddu’r genhedlaeth a’r defnydd o ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

“Ond mae’r methiant i gymryd i ystyriaeth barn pobol leol yn cynrychioli diffyg democrataidd – dyna etifeddiaeth y Llywodraeth Lafur.”


‘Rhaid derbyn’

Ond mae Ceidwadwr arall, Aelod Seneddol newydd Aberconwy, wedi dweud bod rhaid derbyn bellach fod y penderfyniad i godi’r fferm wedi ei wneud.

Y gwaith bellach, meddai Guto Bebb wrth Radio Wales, oedd sicrhau bod yr ardal, a gogledd Cymru i gyd, yn elwa o’r cynllun.

Bydd Gwynt y Môr yn costio £2 biliwn i’w hadeiladu gyda thua 250 tyrbin gwynt yn cael eu codi 11 milltir o arfordir Bae Colwyn a Llandudno.

RWE npower sydd yn gyfrifol am y datblygiad, ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2014 – bydd y tyrbinau yn creu digon o bŵer ar gyfer 400,000 o dai.

Ym mis Rhagfyr 2008 y cafodd y cwmni ganiatâd gan Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan i adeiladu’r fferm wynt.

Roedd Cyngor Sir Conwy yn erbyn y cynllun ond fe benderfynon nhw beidio â herio’r penderfyniad oherwydd y gost gyfreithiol. Llywodraeth Prydain sy’n penderfynu ar gynlluniau o’r maint yma.

Mae cefnogwyr yn dweud y bydd y prosiect yn creu 1,000 o swyddi ond mae gwrthwynebwyr, gan gynnwys y grŵp protest lleol Save our Scenery, yn dweud y bydd y tyrbinau hyll yn weladwy o’r lan.