Cytundeb pum mlynedd newydd i Neco Williams yn Lerpwl

Fe wnaeth y Cymro lofnodi’r cytundeb yn ystod taith baratoadol i Awstria

Mae’r Cymro Neco Williams wedi llofnodi cytundeb pum mlynedd newydd i aros gyda Chlwb Pêl-droed Lerpwl.

Fe wnaeth y cefnwr de 19 oed lofnodi’r cytundeb gyda phencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr wrth i’r garfan ymarfer fynd ar daith baratoadol i Awstria.

Mae’n dweud ei fod yn deimlad “anhygoel”, ac nad oes “unlle gwell i ddysgu a dod yn chwaraewr gwell”.

Roedd tymor 2019-20 yn un addawol iddo, ac yntau wedi ennill medal pencampwyr a gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Cochion yng Nghwpan Carabao yn erbyn Arsenal.

Chwaraeodd e chwe gwaith yn yr Uwch Gynghrair.

Enillodd e fedal fel rhan o Gwpan y Byd Clybiau FIFA.

← Stori flaenorol

Danny Ward yn dychwelyd i Huddersfield ar ôl gadael Caerdydd

Gadawodd yr ymosodwr yr Adar Gleision ar ddiwedd y tymor

Stori nesaf →

Cael a chael i Forgannwg yng Nghaerdydd

Y gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Nhlws Bob Willis yn y fantol ar ddiwedd y trydydd diwrnod

Hefyd →

Dim lle i Ferthyr yng Nghwpan Cynghrair Cymru

Dim ond Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam o blith timau Cymreig Cynghrair Lloegr sydd wedi derbyn gwahoddiad