Jamie Bevan
Wrth adolygu ei waith ffilmio hyd yn hyn i’r prosiect ‘Pan Cymru’, daeth Dai Lingual o hyd i gyfweliad gyda Jamie Bevan yn sôn am sut newidiodd carchar ei fywyd ef, ei deulu a’i ffrindiau.
Nid fi oedd yr unig flogiwr i ysgrifennu am hanes Jamie Bevan y llynedd wrth iddo gael ei garcharu am ei safiad dros yr iaith Gymraeg, a phan gwrddais ag ef am y tro cyntaf wedi ei ryddhau, bu’n ddigon bonheddig i adael imi ffilmio ein sgwrs.
…yn ogystal â’i recordio
Cyn cyhoeddi ar y wefan Golwg360 – sy’n cael ei drafod yn ystod fy sgwrs gyda Jamie fel man trafod newydd a chyffrous i’r Cymry Cymraeg – roeddwn yn awyddus iawn i gael ymateb gan swyddfa @comygymraeg am ddiweddariad o glywed Jamie’n sôn am y diffyg Cymraeg yn y carchardai.
Wedi imi eu holi am hyn drwy alwad ffôn ac yna eu hatgoffa ar y trydar, dyma ddywedodd llefarydd ar ran swyddfa’r Comisiynydd Iaith ddydd Mawrth:
“Mae trafodaethau’n parhau gyda NOMS [National Offender Management Service] gan obeithio y bydd eu cynllun iaith newydd yn cael ei gyhoeddi.”
Gobeithio gwnewch chi fwynhau’r clip o gerddoriaeth ar ddiwedd y fideo wrth i Jamie chwarae’n fyw yn noson Gymraeg yng Nghaerdydd – tybed a wyddoch chi pwy yw’r gwestai ar yr organ geg? Atebwch drwy roi sylw isod!