Pa gymeriadau sydd wedi dal dychymyg plant Cymru dros y ganrif ddiwethaf?

Rhif 10: Tecwyn y Tractor

Bip bip! Gwelwyd Tecwyn y Tractor am y tro cyntaf yn y llyfr o’r un enw gan yr awdures i blant, Margiad Roberts, yn 1992.

Yn ogystal â chyfres o lyfrau eraill rhyddhawyd CD o ganeuon i’r tractor bach coch wedi eu cyfansoddi gan Myrddin ap Dafydd a Rhys Parry, a’u canu gan Bryn Fôn. Erbyn hyn mae ganddo ei gyfres ei hun ar S4C.

Rhif 9: Wcw

Bara te a sos coch! Daeth Wcw’r gwcw i’r amlwg gyntaf yn y rhaglen deledu i blant bach, Tŷ Chwith, oedd yn cael ei darlledu ar Slot Meithrin S4C ddechrau’r 90au.

Erbyn hyn mae gan y cyn-byped ei gylchgrawn i blant ei hun, Wcw a’i Ffrindiau, sy’n cael ei gyhoeddi gan gwmni Golwg Cyf.

Rhif 8: Syr Wymff a Plwmsan

Raslas bach a mawr, yn wir! Ymddangosodd cymeriadau Wynford Ellis Owen a Mici Plwm yn y rhaglen o’r 80au cynnar, Teliffant. Aeth Syr Wynff ap Concord y Bos, Plwmsan y Twmffat Twp, a taid, yn eu blaen i gael eu rhaglen boblogaidd eu hunain, Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan.

Rhif 7: Sion Blewyn Coch

Daeth Sion Blewyn Coch i’r amlwg am y tro cyntaf yn Llyfr Mawr y Plant, a gyhoeddwyd gan Hughes a’i Fab, Wrecsam, yn 1931. Yn yr hanes hwnnw roedd yn byw gyda Siân Slei Bach yng Ngherrig Mawr ar ochor y Wyddfa, yn eu tŷ moethus, Twll Daear.

Ymddangosodd mewn addasiad wedi’i animeiddio o’r stori Nadoligaidd hynny yn 1986, yn ceisio osgoi sylw Eban Jones y ffermwr, gyda help y twrci.

Rhif 6: Twm Sion Cati

Roedd gan Thomas Jones o Dregaron enw fel lleidr pen ffordd oedd yn dwyn wrth y cyfoethog rywbryd rhwng 1530 a 1620.

Cafodd ei hanes ei addasu i blant mewn modd cofiadwy gan T Llew Jones mewn tri llyfr – Y Ffordd Beryglus, Ymysg Lladron a Dial o’r Diwedd, yn y 60au, ac yn fwy diweddar yn y panto poblogaidd Twm Sion Cati.

Rhif 5: Rala Rwdins

Fe wnaeth Rala Rwdins o Dŷ’n Twll ei hymddangosiad cyntaf yn y llyfr o’r un enw yn 1983, fel rhan o Gyfres Rwdlan yr awdur Angharad Tomos.

Mae llyfrau pellach ar gael fel rhan o’r gyfres Darllen Mewn Dim, a chomig i’w liwio yng nghylchgrawn Wcw a’i Ffrindiau. Yn ddiweddar mae anturiaethau Rwdlan, y Dewin Dwl, Rala Rwdins, y Dewin Doeth, y Llipryn Llwyd a Strempan yng Ngwlad y Rwla wedi eu haddasu mewn cyfres deledu i blant.

Rhif 4: Wil Cwac Cwac

Mae cartŵn yr hwyaden Wil Cwac Cwac yn seiliedig ar gyfres o lyfrau plant o’r 1920 gan Jennie Thomas a J.O. Williams, gan gynnwys Llyfr Mawr y Plant. Parhaodd y gyfres animeiddio o 1984 tan ddechrau’r 90au, gyda’r cymeriadau wedi eu lleisio gan Myfanwy Talog.

Mae chwadan go iawn o’r enw Wil Cwac Cwac yn dal y record byd am fywyd hir, wedi iddo farw’n 25 oed. Nos da, cwac!

Rhif 3: Superted

Cread Mike Young a Robin Lyons yw cymeriad Superted. Mae’n debyg bod y cymeriad wedi datblygu allan o straeon oedd Mike Young yn ei ddweud wrth ei lysfab i’w gael i gysgu yn y nos. Aeth yn ei flaen i ysgrifennu dros 100 o lyfrau am y cymeriad, cyn gofyn i S4C ei droi mewn i gyfres deledu.

Sibrydodd Superted y gair hud am y tro cyntaf yn Gymraeg yn 1982, er mai dybiad o’r Saesneg gwreiddiol oedd y rhaglen. Mae Superted, ei ffrind Smotyn, Clob, Sgerbwd yn ei slipars pinc a Dai Texas hefyd yn enwog am helpu plant i groesi’r lôn mewn cynhyrchiad arbennig ar gyfer y Swyddfa Gymreig.

Enillodd y gyfres Bafta am animeiddiad gorau yn 1987. Superted oedd y cartŵn cyntaf o Brydain i gael ei werthu i Disney Channel UDA.

Rhif 2: Sali Mali

Cyhoeddwyd Sali Mali yn wreiddiol fel rhan o Gyfres Darllen Stori’r athrawes, Mary Vaughan Jones, yn 1969, ynghyd â Tomos Caradog, Jaci Soch a chymeriadau eraill.

Bellach mae wedi ymddangos mewn degau o lyfrau, yn ogystal â chryno ddisgiau a rhaglenni teledu. Mae ganddi gartŵn ar S4C yn ogystal â rôl yn gweithio’n galed yng nghaffi y gyfres Pentref Bach.

Ond creodd un o’i llyfrau diweddaraf, Sali Mali a’r Hwdi Chwim, ddadl wrth i rai gredu ei fod yn codi braw ar blant.

Rhif 1: Sam Tân

Daeth y syniad gwreiddiol am gyfres Sam Tân gan ddau o gyn ddynion tan o Gaint. Datblygodd S4C y syniad fel rhaglen yn defnyddio pypedau stop-symudiad ddarlledodd am y tro cyntaf yn 1985. Daeth y gyfres i ben yn 1994, cyn iddo gael ei atgyfodi yn 2003.

Ar hyn o bryd mae trydydd ymgais i ddweud hanes Sam Tân, Elfis, Trefor a Norman Preis, nawr gyda delweddau cyfrifiadurol yn hytrach na phypedau, i’w weld ar S4C.

Ydach chi’n cytuno? Rhowch wybod: gol@golwg.com

(Llun: Sali Mali – Jac Jones)