Bydd Cymru yn wynebu Rwsia nos Fercher heb y chwaraewr canol cae, Jason Koumas.

Mae Koumas, a enillodd 34 o gapiau dros ei wlad, wedi penderfynu ymddeol o bêl droed rhyngwladol.

Mae chwaraewr Wigan wedi cael trafferthion gydag anafiadau ers misoedd ac mae rheolwr Cymru, John Toshack, wedi derbyn ei benderfyniad.

Diolchodd y rheolwr i’r chwaraewr 29 oed am ei wasanaeth a dymuno’n dda iddo yng ngweddill ei yrfa gyda Wigan.

Heb wireddu potensial

Chwaraeodd gyntaf yn y crys coch yn 2001 a sgoriodd 10 gôl i Gymru, ond yn ôl nifer, wnaeth e’ ddim llwyddo i wireddu ei botensial.

Roedd ganddo fe enw am fod e’n sensitif iawn i feirniadaeth hefyd, er fod Toshack wedi ei amddiffyn yn aml wedi iddo fe dynnu allan o garfan Cymru ar wahanol adegau.

Mae’n debyg nad oedd yn hoff o chwarae dramor gan fod ganddo ofn hedfan mewn awyren.

Mae’r chwaraewr wedi dweud y bydd yn gobeithio ymestyn ei yrfa nawr drwy ganolbwyntio ar chwarae i’w glwb yn unig.

Colli tri arall

Bydd Cymru heb dri chwaraewr arall ar gyfer ymweliad y Rwsiaid hefyd.

Mae amddiffynnwr Bristol City, Lewin Nyatanga, yn dioddef o’r dwymyn doben (mumps).

Mae dau chwaraewr ifanc, Jack Collison o West Ham a Simon Church o Reading, yn mynychu angladdau eu tadau, fu farw yn ddiweddar.