Mae tua 120 o bobol wedi bod yn protestio yn erbyn cyflogi gweithwyr tramor ar safle adeiladu gorsaf bŵer ger Casnewydd heddiw.
Mae adeiladwyr di-waith o undebau Unite a’r GMB wedi casglu yn Uskmouth i ddangos eu gwrthwynebiad i ddefnydd cwmni ‘Siemens’ o weithwyr tramor ar safle datblygu gorsaf bŵer nwy Severn Energy.
Mae aelodau’r undebau am i Siemens barchu ymrwymiad i gyflogi 80% o weithwyr lleol.
Ond, mae’r cwmni yn mynnu fod 81.5% o’r gweithwyr naill ai’n Brydeinwyr neu’n Wyddelod. Maen nhw hefyd wedi datgan fod y brotest yn “amhriodol.”
Cafwyd protest arall ar y safle tua tair wythnos yn ôl.
Mae disgwyl i gannoedd o undebwyr ledled Prydain fynychu cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis i drafod beth i’w wneud nesaf.
“Mae aelodau o’r undeb yn credu bod y cyflogwyr yn torri cytundeb lleol ynglŷn â chyfansoddiad y gweithlu ar y safle,” meddai John Philips o’r undeb GMB.
“Mae nifer y protestwyr yma heddiw yn dangos pa mor gryf yw’r teimladau ar y mater ac rydan ni’n galw ar gyflogwyr i anrhydeddu’r cytundeb.”
Bydd trafodaethau rhwng y cyflogwyr a’r undebau yn cael eu cynnal ddydd Iau.
Mae’n debyg y bydd yr orsaf bŵer newydd yn agor yn 2010 ar gost o £400 miliwn.