Mae elusen o Sweden wedi cyhuddo milwyr Americanaidd o feddiannu ysbyty yn Afghanistan gan dorri drysau i lawr a chlymu staff.

Mae awdurdodau milwrol yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod yn ymchwilio’r cyhuddiadau gan Bwyllgor Swedaidd Afghanistan.

Mae’r grŵp wedi cyhuddo milwyr Americanaidd o fynd i mewn i’r ysbyty yn nhalaith Wardak, i’r de o Kabul, heb ganiatâd.

Dywedodd Anders Fange, cyfarwyddwr yr elusen yn Afghanistan, fod y milwyr wedi cicio drysau’r ysbyty i gael mynediad ac wedi clymu pedwar aelod o staff yn ogystal â dau o berthnasau cleifion.

Mae’r cyfarwyddwr o’r farn fod gweithredoedd honedig y milwyr yn mynd yn groes i sancteiddrwydd cyfleusterau meddygol mewn rhanbarthau brwydr.

Fe wnaeth swyddog ar ran Llynges America gadarnhau eu bod yn ymchwilio’r achos, ond ychwanegodd nad oedd ganddi ragor o fanylion.