Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gwneud darganfyddiad a allai fod yn allweddol yn yr ymdrech i ddod o hyd i ffordd o wella cyflwr Alzheimers.
Mae’r gwyddonwyr wedi dod o hyd i ddau enyn newydd sy’n gysylltiedig gyda chreu’r cyflwr. Hyd yma dim ond un genyn oedd wedi ei adnabod fel ffactor ar gyfer Alzheimers.
Dywedodd yr Athro Julie Williams o Brifysgol Caerdydd y gallai’r darganfyddiad helpu gydag achosion eraill o dementia yn ogystal.
“Dy’n ni ddim wir yn deall beth sy’n achosi Alzheimers, “ meddai’r Athro Williams.
“Ro’n ni’n meddwl bod syniad gyda ni, ond mae’n gwybodaeth ni yn dangos bod ‘na bethau eraill sy’n digwydd sy’n rhaid i ni edrych arnyn nhw.
“Rwy’n credu ymhen rhai blynyddoedd bydd gyda ni syniad da iawn am beth sy’n achosi’r cyflwr.
“Mae’n debyg bod y genynnau ry’n ni wedi eu darganfod yn amddiffyn yr ymennydd, ac mae newidiadau yn y genynnau yma yn golygu y gallai fod yna ddirwyiad yn yr amddiffyniad yna. Mae’n bosib hefyd y gallai’r genynnau newid o fod yn amddiffyn yr ymennydd i ymosod arno.”
Mae dros 700,000 o bobol ym Mhrydain yn dioddef o dementia, gyda 37,000 yng Nghymru yn unig.