Mae’r cwmni bwyd Americanaidd enfawr, Kraft Foods, wedi cynnig £10.2 biliwn am gwmni siocled Cadbury.

Mae’n debyg fod Cadbury wedi gwrthod eu ceisiadau yn y gorffennol.

Ond, yn ôl cwmni Kraft Foods, maen nhw wedi “ymrwymo i weithio tuag at werthiant” ac yn gobeithio parhau â thrafodaethau gyda grŵp Cadbury – gwneuthurwyr y siocled Dairy Milk a llawer o gynnyrch poblogaidd arall.

Eisoes, mae Kraft Foods yn gyfrifol am enwau bwydydd cyfarwydd fel Maxwell House, Oreos a Jacobs.