Mae bachgen ysgol a gafodd ei adael mewn coma am dros fis ar ôl ymosodiad tra ar ei wyliau yn Majorca wedi deffro, meddai ei fam.

Fe gafodd Alex Hughes, 16 oed, o Radur ger Caerdydd, ei daro ar ei ben gyda photel pan oedd ar noson allan yn nhref wyliau fechan Port d’Andratx yng ngorllewin yr ynys.

Roedd yno gyda ffrind a’i deulu ar ôl gorffen ei arholiadau TGAU.

“Dros y diwrnodau diwethaf rydym ni wedi sylwi gwahaniaeth enfawr yn Alex. Nid yw’n gallu siarad oherwydd bod tiwb yn ei wddf ond mae’n cyfathrebu drwy ystumiau ceg yr un fath,” meddai Helen Hughes, ei fam.

Hefyd, dywedodd bod ei mab yn dechrau symud ei freichiau a’i goesau ac yn gallu gwasgu ei llaw bellach.


Rhaglen therapi

Mae ei fam, sy’n gweithio fel nyrs, yn gobeithio y caiff ei mab ei drosglwyddo i Ysbyty Rookwood, Caerdydd o fewn y pythefnos nesaf i ddechrau rhaglen therapi dwys.

Yn y cyfamser, mae llawer o ddigwyddiadau codi arian yn cael eu cynnal i dalu am ffioedd cyfreithiol yr achos wedi i Helen Hughes logi cyfreithiwr Sbaenaidd i gynrychioli’r teulu.

Eisoes, mae tri llanc lleol wedi’u harestio am yr ymosodiad a ddigwyddodd wrth i Alex Hughes a’i ffrind adael clwb nos, meddai heddlu Mallorca.

“Does dim ots gen i am arian iawndal, yr hyn ydw i eisiau ydi i Alex allu cerdded, siarad a chael bywyd bywiog – hefyd, mae angen cyfiawnder yn yr achos hwn,” meddai’r fam.

(Llun: Port d’Andratx, Mallorca)