Mae mab arweinydd Libya, y Cyrnol Gaddafi, wedi dweud y bydd ei wlad yn gwrthod unrhyw alwadau am iawndal gan deuluoedd sydd wedi eu niweidio gan weithredoedd yr IRA.

Mewn cyfweliad gyda Sky News, dywedodd Saif al-Islam Gaddafi y byddai unrhyw achosion am iawndal yn sgil cyflenwad honedig o arfau y Libyaid i’r IRA yn “fater i’r llysoedd”.

Ychwanegodd wedyn, “Mae ganddyn nhw (teuluoedd sydd wedi dioddef) eu cyfreithwyr, ac mae ganddon ni ein cyfreithwyr hefyd.”


Brown yn newid ei feddwl

Daeth sylwadau Saif al-Islam Gaddafi’s oriau’n unig wedi i Gordon Brown newid ei feddwl a chyhoeddi ei fod e’n sefydlu tim arbennig i roi cymorth i’r teuluoedd hynny wnaeth ddioddef o ganlyniad i’r cysylltiad arfau  honedig rhwng yr IRA a Libya.

Pan ofynnwyd i Saif al-Islam Gaddafi ai ‘na’ fyddai’r ateb i unrhyw alwadau am iawndal gan y teuluoedd, ei ateb oedd, “wrth gwrs”.

Ychwanegodd bod gwleidyddion Prydeinig yn “ffiaidd ac anfoesol” wrth geisio elwa’n wleidyddol ar achos Al Megrahi.

Dywedodd hefyd nad oedd Gordon Brown wedi bod yn rhan o drafodaethau dros ryddhau bomiwr Lockerbie.