Fe gafodd y Dreigiau ddechrau da i’r tymor gyda buddugoliaeth swmpus o 23-6 yn erbyn Ulster ar Rodney Parade.

Daeth y cais cyntaf o dri i’r Dreigiau wedi 12 munud, gyda’r asgellwr, Aled Brew, yn croesi wedi pasio da ymhlith yr olwyr.

Doedd dim llawer arall i gyffroi’r dorf cyn yr egwyl. Fe wnaeth y maswr, Ian Humphreys, gicio cic gosb i’r ymwelwyr a James Arlidge yn ymateb gyda tri phwynt i’r tim cartref.

Y sgôr ar yr hanner yn 8-3 i’r Dreigiau.

Wedi’r egwyl llwyddodd Arlidge gyda chic gosb i’r Dreigiau a Humphreys i Ulster.

Yna, wedi ychydig dros awr o chwarae a chyfnod cryf o amddiffyn gan y tîm cartref, torrodd y canolwr, Tom Riley, a phasio i’r asgellwr, Richard Fussell, i groesi am gais i’r Dreigiau.

Dair munud wedyn daeth cais arall i ddynion Gwent – y tro yma drwy’r canolwr, Ashley Smith.

Ychwanegodd Jason Tovey drosiad i sicrhau mantais o 23-6 i’r Dreigiau. Ac er gwaetha’ cyfnod o ymosod gan yr ymwelwyr ar ddiwedd y gêm, dyna’r sgôr terfynol.

Dechreuad digon cadarn i’r Dreigiau felly, a Paul Turner a’i dîm hyfforddi yn mynd adref yn fodlon.