Fe wnaeth tua 80 o gyn faciwîs yr Ail Ryfel Byd gasglu heddiw ar gyfer aduniad o hen ffrindiau ysgol.

Fe wnaeth y cyn ddisgyblion yn ysgol King Edwards yn Birmingham gyfarfod yn Nhrefynwy, 70 mlynedd ar ôl cael eu gorfodi i ffoi yno adeg y rhyfel.

Teithiodd un cyn-ddisgybl o Cape Town yn Ne Affrica ar gyfer yr aduniad, gafodd ei drefnu gan y Five Ways Old Edwardian Association.

“Mae’n rywbeth arbennig – profiad cofiadwy iawn,” meddai Raymond Altschuler, 84 oed, oedd wedi teithio yno gyda’i wraig Sylvia.

“Pan ydach chi heb weld rywun am 60 mlynedd a ddim yn eu nabod nhw, ond cyn gynted ag ydach chi’n gweld yr enwau a mae nhw’n dechrau siarad, daw popeth yn ôl.”

Gadawodd yr ysgol yn Nhrefynwy yn 17 oed er mwyn ymuno gyda’r fyddin yn 1943. Yna ymfudodd i Dde Affrica i agor siop ddillad y mae o’n dal yn berchen arni.

“Doedd yna ddim lot mwy i fywyd heblaw’r ysgol ac fe fydden ni’n mynd adref am ein gwyliau,” meddai. “Mae gen i atgofion hapus o fy amser yn Nhrefynwy.

“Dwi’n meddwl bod nifer ohonom ni gafodd eu gyrru yma wedi dod yn ôl dros y blynyddoedd gyda’n gwragedd a’n teuluoedd. Mae’r lle wedi gwneud cymaint o argraff arnom ni.

“Roedd o mor heddychlon – er ein bod ni’n medru gweld bomwyr Almaenaidd yn hedfan i fyny Dyffryn Gwy ar eu ffordd i’r gogledd-orllewin.

“Weithiau byddai nhw’n gollwng un neu ddau yn yr ardal, ond dim digon i wneud pethau’n anodd i ni.”