Dylai mwy o fabanod newydd anedig gael eu cymryd o dan ofalaeth y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu niweidio gan rieni gwael.
Dyna farn Martin Narey (dde), prif weithredwr elusen plant Barnardo’s, sydd wedi galw am lai o ganolbwyntio ar “drwsio teuluoedd nad oes modd eu trwsio” a bod yn fwy parod i gymryd plant oddi ar eu rhieni.
Daeth ei sylwadau wedi achos llys yr wythnos ddiwethaf pan ddaeth i’r amlwg bod dau frawd ifanc o Doncaster wedi ymosod yn dreisgar ar hogyn 11 oed a’i nai 9 oed.
Roedd y ddau frawd dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol ar y pryd.
Mabwysiadu
Dywedodd Martin Narey wrth bapur newydd yr Observer: “Does dim pwynt parhau i geisio trwsio teuluoedd sydd wedi chwalu’n gyfan gwbwl. Mae’n swnio’n ofnadwy, ond dw i’n credu ein bod ni’n trio’n rhy galed gyda rhieni biolegol.
“Rydw i wedi gweld plant yn cael eu gyrru’n ôl i gartrefi na fyddwn i’n sicr wedi eu gyrru nhw’n ôl iddynt. Rydw i wedi fy synnu gan rai o’r penderfyniadau.
“Pe bai ni wir yn poeni am les plant fe fydden ni’n eu cymryd nhw fel babanod a’u gosod nhw gyda theuluoedd sydd am fabwysiadu, lle bydden nhw’n cael y fagwraeth orau.”
Dywedodd y Gweinidog Plant, Ed Balls, nad cymryd babanod oddi ar eu rheini oedd yr “ateb cyntaf”.
“Dw i ddim yn credu mai dyna’r peth cyntaf i’w wneud yn reddfol,” meddai. “I ddechrau mae’n werth gweld a oes modd mynd i wraidd beth sydd wedi mynd o’i le.
“Y peth cywir i’w wneud yw gofyn, ‘a fedwrn ni ddatrys y problemau yn y teulu yna?’”