Mae ffigyrau blaenllaw o fyd rasio ceffylau wedi talu teyrnged i ddau joci ifanc fu farw wedi tân oedd o bosib wedi ei gynnau yn fwriadol.
Mae rasys ar hyd a lled y wlad wedi bod yn cynnal munudau o dawelwch a’n hedfan baneri ar hanner eu mastiau i gofio am Jamie Kyne, 18 oed, a Jan Wilson, 19.
Bu farw’r ddau mewn tân ddoe yn Norton, ger Malton, yng Ngogledd Swydd Efrog. Roedden nhw’n cynnal parti ar y pryd.
Mae dyn lleol yn ei 30au yn cael ei holi gan yr heddlu ynglŷn â’r digwyddiad. Gan fod yr adeilad ddim yn ddiogel i’r heddlu ei archwilio eto, mae teuluoedd y ddau yn dal i ddisgwyl i adnabod y cyrff.
Mae’r ddau wedi bod ar goll ers i’r tân sgubo drwy’r adeilad yn oriau mân y bore ddydd Sadwrn. Roedd Jamie Kyne i fod i farchogaeth yn Haydock heddiw.
Mae ei rieni Gerry a Madeline, ei bedwar brawd a’i chwaer fach, yn cael eu cysuro gan berthnasau yn Claregalway, Sir Galway, heddiw.
“Maen nhw wedi dioddef ergyd fawr, mae’n sioc aruthrol,” meddai’r cynghorydd o Galway a chyfyrder y joci, Jarlaith McDonagh.
“Does dim cadarnhad gan yr heddlu mai fo ydi o, ond mae o bron yn sicr. Wnaeth o ddim troi fyny i’w rasys ddoe.”