Yn y darn cyntaf hwn mewn cyfres o dri darn ar sefyllfa addysg Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru, Cydlynydd Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn y De-ddwyrain, Michael L N Jones sy’n pwyso a mesur blaenoriaethau addysg y rhanbarth….
Mynwy, Blaenau Gwent, Torfaen a Chasnewydd
Nid yw 2013, hyd yn hyn, wedi bod yn flwyddyn pan gafwyd newyddion am gamau breision yn hanes twf addysg Gymraeg.
A dweud y gwir, mae’r newyddion wedi bod yn siomedig mewn sawl cyfeiriad. Ond eto, mae’n werth cofio bod rhai datblygiadau ar fin aeddfedu mewn modd boddhaol iawn. Ym maes addysg yn gyffredinol, mae pethau mawr wedi digwydd nad ydym eto yn gwybod beth fydd eu harwyddocâd terfynol.
Yn sicr mae’n bur amlwg nad yw’r awdurdodau addysg niferus, sydd wedi bodoli yn eu ffurf bresennol ers 1996, yn debyg o barhau’n hir ac nid yw RhAG yn credu bod hwn yn ddatblygiad gwael.
Yn barod mae tri chyfarwyddwr addysg yn y de-ddwyrain wedi mynd o’u swyddi ar archiad y Gweinidog Addysg ac mae dau ohonynt wedi cael eu holynu gan Gyfarwyddwr o awdurdod arall. Aeth pedwerydd Prif Swyddog o’i swydd yng Nghaerdydd sef Chris Jones trwy benderfyniad Cabinet newydd y sir ac yn ddiweddar iawn, mae’r sir wedi penodi ei olynydd – Nick Bachelor, o Fryste.
Ers 8 mis, mae awdurdod addysg fwyaf Cymru wedi bod heb gapten ar y llong a chynghorydd hollol ddibrofiad yn sefyll tu ôl i’r gadair wag.
Hefyd mae’r adran wedi cael swyddog newydd, Pennaeth Gwella Ysgolion, ers dau fis, sef Stuart Powell sy’n hanu o Perth, Yr Alban, lle mae’n dal i fyw.
‘Sir Fynwy yn aros yn ei hunfan’
Edrychwn yn fanylach ar y sefyllfa fesul awdurdod. Yn y darnau sydd i ddilyn, fe edrychwn ar y sefyllfa mewn grwpiau o siroedd sy’n wynebu sefyllfa debyg ond yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol.
Mae addysg Gymraeg yn Sir Fynwy wedi aros yn ei hunfan unwaith eto, heb symud o gwbl, i gydnabod yr angen amlwg i agor dosbarth cychwynnol yn Nhrefynwy lle mae criw o blant dewr yn gwneud y daith hir i gyrraedd Ysgol Gymraeg Y Fenni.
Tredegar
Mae Blaenau Gwent wedi cael ei osod o dan reolaeth Cyfarwyddwr Casnewydd a rhaid gobeithio y bydd e’n fodlon edrych yn fwy ffafriol ar y cynllun i agor dosbarth cychwynnol yn Nhredegar lle mae dosbarthiadau meithrin eithaf niferus nad ydynt yn anfon rhyw lawer o blant ymlaen i addysg statudol yn Ysgol Bro Helyg sydd wedi ei lleoli yng Nghwm Ebwy Fach, dau gwm i ffwrdd o Gwm Sirhywi lle mae Tredegar.
Roedd brwdfrydedd am agor dosbarth cychwynnol mewn ysgol Saesneg yn Nhredegar oedd yn fodlon derbyn yr egin ysgol ond bron ar y funud olaf, daeth amheuon am hyfywdra’r egin ysgol a gwrthododd y swyddfa fentro er eu bod nhw’n gwybod am lwyddiant Ysgol newydd Cwm y Dderwen, sydd hefyd yn y Sirhywi ond ar diriogaeth Bwrdeistref Caerffili.
Mae RhAG yn argyhoeddedig y byddai llwyddiant wedi dod i ysgol Gymraeg yn y rhan uchaf o Gwm Sirhywi fel i’r un yng nghanol y cwm.
Torfaen
Mae awdurdodau Torfaen a Chasnewydd wedi gweld sut mae ysgolion newydd Cymraeg yn tyfu pan maen nhw’n agor yn nes i’r lle mae’r plant yn byw. Yn Nhorfaen fe lwyddodd cynghorydd brwdfrydig i gael ysgol ychwanegol i wasanaethu ardal yng nghanol y fwrdeistref yn nes i Bontypwl mewn adeilad bur hen sy’n siŵr o fod yn dyddio nôl i adeg yr ysgolion gwirfoddol elusennol cyn Deddf Addysg 1870, a greodd yr ‘Ysgolion Bonedd’.
Agorwyd yr ysgol i dderbyn un ffrwd yn 2010. Roedd galw am ail ffrwd erbyn 2012 a ddarparwyd, a bydd dwy ffrwd yn dechrau eto eleni, sydd mwy neu lai yn llenwi adeilad â lle i 150 plentyn. Mae Torfaen yn bwriadu agor adeilad dwy ffrwd newydd sbon ar safle Avesta (lle bu gwaith dur) i dderbyn y plant sy’n llifo i addysg Gymraeg ym Mhanteg.
Cwmbrân
Yn ne’r fwrdeistref mae Ysgol Gymraeg Cwmbrân i fod i dderbyn 47 y flwyddyn. Yn dilyn apêl, aeth dros 50 mewn yn 2012 ac mae tua 57 wedi ceisio am le eleni. Mae angen dybryd am ysgol arall yng Nghwmbrân i gwrdd â’r galw.
Dyw’r drydedd ysgol, Bryn Onnen sy’n gwasanaethu rhan ogleddol y fwrdeistref, ddim yn brin o blant. I bob pwrpas mae pump ffrwd o blant yn Nhorfaen lle roedd ychydig dros ddwy ffrwd yn 2009.
Casnewydd
Mae hanes y twf yng Nghasnewydd ers yr arolwg a brofodd fod gwir alw am addysg Gymraeg yn 2005 yn enwog a’r ffrydiau wedi tyfu o 1+ i 5 mewn tair ysgol dros bum mlynedd. Mae’r drydedd ysgol, Bro Teyrnon, wedi cael safle parhaol iddi’i hun. Yn anffodus, nid yw hi yn y lle iawn yng ngorllewin y ddinas ond yn hytrach, yn rhy agos o lawer i Ifor Hael yng ngogledd y ddinas.
Mae plant y pedair ardal hyn yn cael addysg uwchradd yn Ysgol Gwynllyw sydd wedi’i lleoli ychydig i’r gogledd o Bontypwl. Mae Gwynllyw wedi cael estyniadau sylweddol. Ond hyd yn oed gyda rheini, mae hi bron yn llawn. Yn sicr bydd angen ail ysgol uwchradd yng Ngwent erbyn 2015, fel mae’r pedwar awdurdod wedi cytuno.
Mae sawl safle wedi’i awgrymu heb lwyddiant, ac mae’r sefyllfa nawr yn achosi pryder. Ni fydd modd cywasgu cynnyrch ysgolion newydd Torfaen a Chasnewydd i mewn i’r Gwynllyw presennol.
ADDYSG GYMRAEG YN NE-DDWYRAIN CYMRU
TROSOLWG MAI 2013
MICHAEL L N JONES
CYDLYNYDD Y DE DDWYRAIN
RhAG