Iolo Morganwg
Fy hoff berson hanesyddol
Mae llawer o’r rhain, ond un ohonyn nhw ydi Iolo Morganwg. Cymeriad lliwgar iawn, iawn, a dyn a gyfrannodd lawer i ddiwylliant Cymru (trwy ffyrdd digon ‘anghonfensiynol’, weithiau!). Athrylith ecsentrig, hynod greadigol. All neb fyth ddiflasu wrth ddarllen am ei hanes.
Fy hoff stori o hanes
O bosib, hanes Cynwrig Hir yn achub Gruffudd ap Cynan. Mi oedd Gruffudd, brenin Gwynedd, mewn carchar yn Lloegr ers blynyddoedd, ac un diwrnod mi oedd yn cael ei gludo mewn cadwyni o un carchar i’r llall. Mi stopiodd y milwyr oedd yn ei gludo mewn tafarn ym marchnad Caer, a’i adael y tu allan wedi ei rwymo mewn trol. Ond mi basiodd Cynwrig Hir – gŵr o Bowys, mae’n debyg – y dafarn wrth ymweld â’r farchnad, ac mi adnabuodd o Gruffudd. Mi dorrodd o yn rhydd a’i gario ar ei ysgwydd oddi yno (roedd Gruffudd yn wan iawn ar y pryd, wrth gwrs). Tae Cynwrig Hir heb wneud hyn, byddai hanes Cymru wedi bod yn gwbl wahanol – dim goruchafiaeth i Wynedd, dim tywysogion, ac efallai dim Cymru fel y gwyddon ni amdani heddiw.
Y person hanesyddol fyddwn i wedi licio bod
Caratacus, neu Caratacos i roi iddo ei enw Brythonaidd – sef ein Caradog ni’r Cymry. Roedd yn fab i Cunobelenos (Cynfelyn), brenin llwyth Brythonaidd pwerus y Catuvellauni yn ne-ddwyrain Prydain ynghanol y ganrif gyntaf OC. Mi barhaodd Caradog y rhyfel yn erbyn y Rhufeiniaid hyd nes ei fradychu gan Cartimandua, brenhines llwyth anferth y Brigantes, ac mi arweiniodd y gwrthsafiad Brythonaidd yn nhiriogaeth llwyth y Silures yn ne Cymru ac yna yr Ordovices yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
Mi liciwn i fod wedi gwybod be oedd ei resymau dros barhau y rhyfel. Os mai hunan-ddiddordeb oedd ei flaenoriaeth, doedd dim ond rhaid iddo eistedd yn ôl ac etifeddu coron ei dad, Cynfelyn, gan fod hwnnw’n ddiogel ei safle fel brenin cymodlon â Rhufain. Be oedd yn ei yrru, felly, i beryglu’r cwbl mewn rhyfel ddigyfaddawd yn erbyn y grym milwrol mwyaf pwerus yn y byd?
I dorri stori hir yn fyr, mae cliw, o bosib yn y geiriau a briodolir iddo pan lusgwyd o gerbron Claudius yn Rhufain yn garcharor – a dw i ddim yn sôn am y geiriau a ddyfynnwyd gan yr hanesydd Tacitus (oedd yn chwarae i’r gynulleidfa), ond yn hytrach y geiriau a ddyfynnwyd gan yr hanesydd Dio: wrth weld anferthedd cyfoeth Rhufain, meddai Caradog, “A chwithau â’r holl gyfoeth hyn, pam ydych yn chwennych ein pabelli tlawd?” h.y. ‘Pam ydach chi isio concro gwledydd pobol eraill?’
Cyfnod i fyw ynddo:
Weithiau mi fyddwn i wedi licio byw yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, pan oedd poblogi a threfoli yn creu trefi ‘frontier’ gwyllt, a lot o gorddi cymdeithasol a gwleidyddol yn digwydd. Yn aml hefyd, liciwn i fod wedi byw ym Mhrydain neu Gâl cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Ond, ar y cyfan, dw i’n hapus i fyw yn yr oes bresennol. Mae cymaint o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd rŵan – digon i hanesydd gnoi cil arno!
Mae’r rhaglenni Darn Bach o Hanes ar S4C am 8.25 ar nos Fawrth