Ifan Morgan Jones, Prif Is-Olygydd Golwg 360, sy’n edrych ar y sgandalau sydd wedi taro’r ‘Byd Rygbi’ dros yr wythnosau diwethaf…
Fe greodd yr hen Galileo Galilei dipyn o stŵr yn ystod ei fywyd gyda’i ddamcaniaeth bod y byd yn troelli o amgylch yr haul, ac nid i’r gwrthwyneb.
Dw i’n teimlo y gallai rygbi yn Lloegr ddysgu ambell wers gan yr hen Galileo. Yn aml iawn mae’r cefnogwyr fel petaen nhw’n credu bod y gêm ryngwladol yn troelli o amgylch y wlad.
Felly mae Undeb Rygbi Lloegr yn cael ei alw’n Rugby Football Union, heb yr English, a’u stadiwm genedlaethol yn cael ei galw’n HQ.
Dros yr wythnosau diwethaf mae sylwebwyr papurau Llundain wedi bod yn ysgwyd eu pennau mewn anghrediniaeth wrth i ddau sgandal mawr daro’r gêm.
Yn gyntaf fe wnaeth dau o chwaraewyr Caerfaddon dderbyn eu bod nhw wedi cymryd ‘sylweddau anghyfreithlon’, tra bod tri arall yn wynebu gwaharddiad am wrthod cymryd prawf cyffuriau.
Ac yna ffars ‘Bloodgate’ – y chwaraewr o glwb Harelequins a wnaeth frathu pilsen o waed ffug er mwyn cael dod oddi ar y cae a gadael i giciwr arall, gwell gymryd ei le. Mae cyfarwyddwr y clwb, Dean Richards, wedi ymddiswyddo am geisio celu’r gwir.
Cymryd cyffuriau a thwyllo – does dim rhyfedd bod y sylwebwyr wedi bod yn twt twtio. Mae rygbi yn cymryd balchder mewn chwarae teg, yn wahanol i bêl-droed lle mae’r chwaraewyr yn disgyn i’r llawr fel doliau llipa ar y cyffyrddiad lleiaf.
Ond mae’r sylwebwyr wedi mynd ymhellach. “If there’s ever been a worse week for Rugby Union – or at least the public image of the game – I can’t remember it,” meddai Brendan Gallagher yn y Telegraph.
Fe aeth Mark Souster yn y Times yn ei flaen i ddweud bod gan yr achosion “devastating consequences not only for the club but for the game at large.
“The ultimate price for the win-at-all-costs mentality of professionalism is being paid. Rugby can now join cricket and football in the sporting hall of shame.”
I ddechrau, fel mae Mark Souster yn ei awgrymu, mae yna achlysuron unigol o dorri’r rheolau ym mhob un camp. Dim ond y rhai mwya’, fel pêl-droed, criced, rygbi, a rhywfaint o arlwy’r athletau, sy’n cael unrhyw sylw mawr.
Ac yn ail, mae’n werth cofio mai dau glwb o Loegr oedd y rhain, nid y ‘game at large’. Dyw ffegian dau glwb yn Prif Gynghrair Lloegr ddim am gael ‘devestating consequences’ ar rygbi yn Fiji, De Affrica – na’r drws nesaf fan hyn, yng Nghymru, â dweud y gwir.
Na, dyw’r byd rygbi ddim yn troelli o amgylch Lloegr – pan maen nhw’n chwarae’n deg nac ychwaith pan maen nhw’n torri’r rheolau.
Problem i’r ‘Rugby Football Union’ yw hyn, a hyd nes fod rhanbarthau rygbi Cymru yn archebu llond tryc o bils gwaed does dim rheswm dros boeni bod y pydredd wedi lledu ymhellach.