Bydd milwyr sydd wedi dychwelyd o chwe mis o frwydro yn Affganistan yn cael eu croesawu’n ôl i Gymru heddiw.
Ar ôl gorymdeithio trwy Gaerdydd, bydd y milwyr, aelodau o Ail Fataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol, yn mynychu gwasanaeth coffa yng Nghastell Caerdydd i dalu teyrnged i un o’u plith a gafodd ei ladd yn y brwydro.
Cafodd yr Is-gorpral Christopher Harkett, 22 oed o Bontardawe, ei ladd mewn ffrwydran ger Musa Qala yng ngogledd Helmand ar Fawrth 14.
Bydd y milwyr yn gorymdeithio dan arweiniad band y Bataliwn o Neuadd y Ddinas i’r gwasanaeth coffa.
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a fydd yn mynychu’r digwyddiad, ei bod hi’n anrhydedd croesawu’r milwyr adref.
“Byddwn yn cofio’n arbennig yr Is-gorpral Christopher Harkett , a ddylai fod yn gorymdeithio trwy strydoedd Caerdydd gyda’i gyd-filwyr,” meddai.
“Rhaid inni beidio byth ag anghofio’r aberth dewr y mae ef a phawb o’i gyd-filwyr wedi ei wneud i helpu adeiladu cymdeithas heddychlon a goddfgar i bobl Affganistan.”
Llun: Aelodau o Gatrawd y Cymry Brenhinol ar ôl dychwelyd i’w barics yn Tidworth, Wiltshire, yr wythnos ddiwethaf. (Cpl Ian Forsyth RLC/Hawlfraint y Goron/PA Wire)