Mae gweinyddiaeth iechyd Chile wedi cyhoeddi bod tyrcïod wedi cael eu heintio gan ffliw moch.
Fe ddywedodd y weinyddiaeth bod yr adar wedi cael eu heintio gan bobol ar ddwy ffarm tu allan i ddinas Valparasio.
Mae’r awdurdodau wedi gorchymyn cwarantîn ac maen nhw wedi hysbysu Sefydliad Iechyd y Byd.
Roedd yna amheuon am y ffermydd ar ôl i’r ieir ddechrau cynhyrchu llai o wyau. Fe gafodd profion eu cymryd ddoe, a chadarnhawyd bod y firws wedi heintio’r adar.
Ond mae arbenigwr ar iechyd anifeiliaid gyda’r Cenhedloedd Unedig wedi pwysleisio mai ysgafn oedd yr effaith ar yr adar.
Fe gytunodd yr arbenigwr gyda llywodraeth Chile bod bwyta cig y tyrcïod yn ddiogel.