Fe roddodd y troellwyr hwb i Forgannwg, wrth i Dean Cosker a Robert Croft gymryd pum wiced a chadw Middlesex i 166-8 ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth.

Er fod hynny’n rhoi Morgannwg 58 rhediad ar y blaen, roedd Middlesex wedi taro’n ôl tua’r diwedd, yn benna’ trwy Shaun Udal. Mae’r bartneriaeth am y nawfed wiced wedi sgorio mwy na 40 rhediad.

Fe fydd Morgannwg yn chwilio am lwyddiant cynnar ar lain sydd wedi troi’n sylweddol yn Sain Helen, Abertawe.

Tua chanol y batiad y gwnaeth y ddau droellwr y difrod, gyda Cosker yn cymryd tair wiced a Croft dwy.

Llun: Robert Croft