Dechrau cymysg oedd yna i ddau o brif ranbarthau rygbi Cymru, gyda’r Dreigiau yn ennill a’r Gleision yn colli yn eu gemau mawr cynta’.
Roedd yna dyrfa fawr o fwy na 15,000 yn gwylio Gleision Caerdydd yn chwarae yn eu gêm gynta’ yn y stadiwm newydd yn y ddinas.
Fe gawson nhw eu curo eto gan Leicester Tigers o Gaerdydd – fel y gwnaethon nhw yn rownd gynderfynol Cwpan Heineken eleni.
Ceri Sweeney a gafodd y cais wrth iddyn nhw golli o 5 – 14.
Roedd hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner, wedi gofyn am berfformiad da i blesio’r cefnogwyr ac fe lwyddon nhw i guro’r Worcester Warriors o Gaerwrangon o 16-10.
Y trobwynt oedd cais gan yr asgellwr Will Harries i roi’r Dreigiau ar y blaen am y tro cynta’ o 11-10.
Llun: Will Harries (Dreigiau)