Fe fydd yr Archdderwydd Dic Jones yn cael ei gladdu heddiw mewn angladd preifat ger ei gartre’.
Fe fu farw ddydd Mawrth ar ôl brwydro am fisoedd yn erbyn canser, gan fethu â chymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae’r angladd heddiw yn Aberporth – heb fod ymhell o fferm yr Hendre, Blaenannerch, lle’r oedd yn ffermio. Mae’n wasanaeth cwbl breifat ond, yn ôl ffrindiau i’r teulu, mae sôn am drefnu gwasanaeth coffa cyhoeddus.
Ers ei farwolaeth, mae llif o deyrngedau wedi bod i’r dyn oedd yn cael ei gydnabod yn binacl traddodiad y bardd gwledig Cymraeg, gyda rhai o’i gerddi yn cael eu hystyried ymhlith y gorau yn yr iaith erioed.
Llun: Dic Jones yn Archdderwydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y llynedd