Fe ddaeth y Prif Weinidog o dan bwysau i roi ei farn ar y penderfyniad i ryddhau bomiwr Lockerbie.
Mae’r Ceidwadwyr yn amau fod gan y Llywodraeth yn Llundain ran yn y drafodaeth ac mai cytundebau masnachol gyda Libya oedd un o’r rhesymau tros ryddhau Abdelbaset al-Megrahi.
Fe ysgrifennodd arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, at Gordon Brown i holi am ei ymateb ac i ofyn pa drafodaethau a fu rhwng Whitehall, Libya a’r Llywodraeth yn yr Alban.
Hyd yn hyn, dyw’r Prif Weinidog ddim wedi dweud gair am yr helynt. Er hynny, roedd wedi sgrifennu at arweinydd Libya, y Cyrnol Gaddafi, yn gofyn iddo beidio â rhoi sioe o groeso i’r dyn a gafwyd yn euog o ladd 270 o bobol yn y ffrwydrad yn 1988.
“Cytundebau masnachol”
Fe ddaeth yn amlwg ddoe fod Abdelbaset al-Megrahi wedi cael cyfarfod gyda’r Cyrnol Gaddafi, ddiwrnod ar ôl cyrraedd yn ôl i Libya.
Ar sail tosturi y cafodd ei ryddhau gan Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban – oherwydd ei fod yn marw o ganser – ond mae mab y Cyrnol Gaddafi, Seif al-Islam, wedi sôn hefyd am gytundebau masnach gyda gwledydd Prydain.
Gwadu hynny y mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain.
Meddai David Cameron yn ei lythyr at y Prif Weinidog: “Mae gyda ni hawl i wybod beth yr ydych chi a’ch gweinidogion wedi ei ddweud wrth Libya ac wrth Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban.”
Adwaith yn erbyn yr Alban
Yn y cyfamser, mae’n ymddangos fod adwaith yn erbyn yr Alban ymhlith rhai yn yr Unol Daleithiau.
Fe gyfaddefodd y corff gwyliau, Visit Scotland, fod rhai pobol wedi cysylltu i ganslo gwyliau yn y wlad. Mae yna wefan newydd, Boycott Scotland, hefyd wedi ei sefydlu.