Does dim llawer o obaith dod o hyd i fachgen 13 oed sydd ar goll yn y môr ar ôl cael ei sgubo oddi ar y pier ym Mhorthcawl.
Fe fu Gwylwyr y Glannau o dair canolfan, cwch achub Porthcawl a hofrenyddion yr heddlu a’r RAF i gyd yn chwilio am y bachgen ar ôl iddo ddiflannu tua hanner awr wedi chwech neithiwr.
Fe fu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwilio wrth iddi dywyllu ond mae disgwyl i’r ymdrech ail-ddechrau heddiw, ar raddfa lai.
Fe fu’r hofrenyddion a’r cwch achub yn chwilio’r môr ei hun tra oedd timau Gwylwyr y Glannau yn cadw llygad ar y lan yn ardaloedd Porthcawl, Port Talbot a Llanilltud Fawr.
Yn ôl llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau, dim ond am tua thair awr y bydd pobol yn gallu byw yn y dŵr yr amser yma o’r flwyddyn. Roedd yna lanw uwch nag arfer hefyd.
Llun: Pier Porthcawl (Ben Birchall/PA Wire)