Mae o leia’ bump o bobol wedi eu lladd ac eraill ar goll ac wedi’u hanafu ar ôl i ddarn o glogwyn gwympo ar draeth ym Mhortiwgal.
Yn ôl y newyddion diweddara’, fe gafodd pedair menyw ac un dyn 60 oed eu claddu dan y danchwa ac roedd achubwyr yn chwilio am dad a phlentyn a oedd ar goll.
Mae’n debyg fod arwyddion rhybudd wedi eu gosod ger y clogwyn ar draeth Maria Luisa ger canolfan wyliau boblogaidd Albufeira yn yr Algarve yn ne’r wlad.
Roedd awdurdodau’r dref yn ymwybodol fod y tywodfaen yn fregus ac roedden nhw wedi gosod y rhybuddion i ddweud wrth bobol gadw draw.
Roedd Prif Weinidog Portiwgal, Jose Socrates, wedi ymweld â’r ardal i weld yr ymdrechion achub.
Llun: Rhan o Albufeira (Trwydded GNU)