Mae gwyddonydd o’r Unol Daleithiau wedi honni y bydd ‘bywyd artiffisial’ yn cael ei greu o fewn y pedwar mis nesaf.
Mae Dr Craig Venter yn honni bod ei dîm yn Rockville, Maryland, wedi troi cornel yn eu nod o greu deunydd byw synthetig.
“Os na wnawn ni unrhyw gamgymeriadau,” meddai Dr Craig Venter wrth bapur newydd y Times, “dw i’n credu y dylai hyn weithio ac y bydd gyda ni’r rhywogaeth synthetig cyntaf erbyn diwedd y flwyddyn.”
Bwriad y gwyddonydd yw defnyddio’r dechnoleg i greu bacteria a fyddai’n droi glo yn nwyon naturiol glanach, yn ogystal â defnyddio algâu i lyncu carbon deuocsid a’i droi yn danwydd hydrocarbon.
Yn ogystal â hynny gall y dechnoleg gael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu technegau newydd ar gyfer creu meddyginiaeth a brechiadau.
Llun: Craig Venter (Trwydded CCA2.5)
http://biology.plosjournals.org/perlserv/?request=slideshow&type=figure&doi=10.1371/journal.pbio.0050266&id=85043