Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Peter Whittingham, wedi dweud ei bod yn bwysig i Gaerdydd gynnal cysondeb yn eu chwarae.
Mae’r Adar Glas wedi gwneud dechrau addawol i’r tymor newydd gyda dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn eu tair gêm gynta’. Maen nhw ar frig tabl y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.
“R’yn ni’n hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r tîm yn chwarae ar hyn o bryd. Ond r’yn ni’n sylweddoli pwysigrwydd cysondeb”, meddai Whittingham.
Dywedodd bod y garfan yn benderfynol o ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair eleni ar ôl boddi wrth ymyl y lan yn ystod y blynyddoedd diwetha’.
Yr hen elyn, Bristol City, fydd yn teithio i’r brifddinas i wynebu Caerdydd ddydd Sul ac maen nhw hefyd wedi cael dechrau da.
Dim anafiadau newydd
Ar hyn o bryd does gan reolwr Caerdydd, Dave Jones, ddim problemau newydd gydag anafiadau yn ei garfan.
Fydd y blaenwr Ross McCormack ddim ar gael oherwydd yr anaf a gafodd yn erbyn Blackpool y penwythnos diwetha’.
Gyda’r Albanwr allan am o leia’ tair wythnos, fe fydd Dave Jones yn gobeithio cael perfformiad arall gwych gany Jay Bothroyd a Michael Chopra.