Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, yn hyderus y bydd ei dîm yn ychwanegu at eu hunig bwynt o’r tymor yn erbyn Coventry yn y Midlands fory.
Bydd yr Elyrch yn awyddus i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor yn erbyn tîm y Cymro, Chris Coleman, ond dyw’r rheiny ddim wedi colli yn eu tair gêm hyd yn hyn.
Mae Sousa yn cyfadde’ y bydd yn dasg anodd yn erbyn tîm sydd yn chwarae’n dda, ond mae’n credu bod gan Abertawe ddigon o ddawn i ennill.
Diffyg goliau
Hyd yma, dim ond un gôl y mae Abertawe wedi ei sgorio mewn tair gêm yn y Bencampwriaeth, ond mae Sousa yn credu mai mater o amser yw hi cyn y bydd yr Elyrch yn sgorio’n gyson.
“R’yn ni’n creu digon o gyfleoedd, ac rwy’n credu bod digon o safon yn y garfan ym mhob safle i sgorio goliau”, meddai’r gŵr o Bortiwgal.
Anafiadau
Mae Paulo Sousa yn gobeithio cryfhau’r canol cae gan groesawu Jordi Lopez yn ôl i’r tîm wedi anaf.
Ond mae Ferrie Bodde, Darren Pratley, Joe Allen, Tom Butler ac Albert Serran yn dal i fod wedi’u hanafu.
Mae disgwyl i Chris Coleman enwi’r un tîm ag a gafodd gêm gyfartal gyda Doncaster yng nghanol yr wythnos.