Bydd Gavin Rees a Bradley Pryce yn dychwelyd i’r sgwâr bocsio heno er mewn ceisio ail lansio eu gyrfaoedd yn y gamp.

Rees

Bydd cyn-bencampwr y byd, Gavin Rees, o Bontnewydd, yn wynebu Gary Reid yn ei ornest gyntaf ers iddo golli ei deitl i Andreas Kotelnik ym mis Mawrth 2008.

Dyna oedd yr unig dro i Rees golli yn y sgwâr mewn 28 gornest proffesiynol.

Pryce

Mae Bradley Pryce yn wynebu Michael Monaghan, ac mae e’ hefyd yn dychwelyd i’r sgwâr ar ôl colli yn ei ornest ddiwethaf.

Fe gollodd y bocsiwr o Gasnewydd yn yr ail rownd yn erbyn Matthew Hall wrth iddo amddiffyn teitl y Gymanwlad ym mis Mawrth eleni.

Enzo

Mae’r ddau focsiwr yn cael eu hyfforddi yn Nhrecelyn gan Enzo Calzaghe, tad y cyn pencampwr byd Joe Calzaghe.

Fe fydd y ddau yn ymladd yng Nghanolfan Casnewydd heno dan faner Calzaghe Promotions.