Mae trefn gêmau rownd cyntaf Cwpan Cymru wedi ei setlo gyda rhai timau lleol yn wynebu’i gilydd i gynnig tamed o sbeis.
Bydd Rangers Caerau yn teithio i Barc Jenner i wynebu’r Barri, tra bod Goytre Utd yn croesawu Dynamos Pentwyn.
Mae Corinthiaid Caerdydd yn chwarae yn erbyn Bryntirion Athletic, gyda Chaerau Ely yn chwarae adref yn erbyn Betws.
Dyw clybiau Uwch Gynghrair Cymru, ynghyd â Phen-y-bont, Caernarfon ac Aberaman Athletig, ddim yn ymuno â’r Cwpan tan yr ail rownd.
Bydd gemau’r rownd gynta’n cael eu chwarae ar 12 Medi neu cyn hynny.
Rownd Gyntaf Cwpan Cymru
Y Barri |
Rangers Caerau |
Bryntirion Athletig |
Corinthiaid Caerdydd |
Caerau Ely |
Betws |
Cambrian & Clydach |
Rhydaman |