Bydd y Croesgadwyr Celtaidd yn gadael Cae’r Bragdy i chwarae eu rygbi yng Nghasnewydd am y ddwy flynedd nesa’.
Mae’r Crusaders yn chwarae yn erbyn y Leeds Rhinos yn Rodney Parade, Casnewydd, ddydd Sadwrn, mewn gêm a oedd wedi cael ei threfnu eisoes ond dyna fydd eu cartre’ wedyn.
Fe fydd y gêm ola’ am y tro ym Mhen-y-bont ar 5 Medi yn erbyn yr Huddersfield Giants ond fe ddywedodd Prif Weithredwr y Crusaders, Mike Turner, y bydden nhw’n galw yno am o leia’ un gêm bob tymor.
Fe fydd y Celtic Crusaders yn chwarae o leia’ ddeg gêm yn eu cartre’ newydd y tymor nesaf, gyda’r bwriad o chwarae tair gêm mewn ardaloedd eraill o Gymru.
“Byddwn yn sicr o chwarae gemau yn Wrecsam a Phen-y-bont a naill ai rywle yn y Canolbarth neu orllewin Cymru”, meddai Mike Turner.
Fe ddywedodd ei fod yn gobeithio denu cefnogwyr newydd o draws Cymru a hyd yn oed o dde orllewin Lloegr i ddod i wylio’r Crusaders.
Y nod tymor hir yw codi stadiwm newydd ym Mhen-y-bont.