Dyma oedd yr olygfa ym Melin Brwcws ger Dinbych yn dilyn glaw mawr a gwyntoedd cryfion ddydd Mawrth (Ebrill 9).

Roedd rhybuddion llifogydd wedi bod mewn grym yn dilyn tywydd garw ar draws Cymru, gyda nifer o adeiladau heb drydan a ffyrdd ynghau.

Fe fu rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion ar hyd rhannau helaeth o arfordir Cymru, gyda rhybuddion o hyrddiadau hyd at 65m.y.a.

Roedd y rhybudd mewn grym ar gyfer Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.