Ydych chi erioed wedi ystyried o ble ddaethoch chi, lle mae eich stori yn dechrau? Sut wnaethoch chi dyfu o fod yn ronyn bach i fod yn berson cyfan ym mol eich mam a sut addasodd ei chorff hi mewn cyn lleied â naw mis er mwyn cynnal eich bywyd chi yn ogystal â’i bywyd hi? Mae’r stori i gyd yn dechrau gyda’r ‘placenta’ neu’r ‘brych’ – organ sydd yn aml iawn yn cael ei hanwybyddu ond hebddi, fuasech chi ddim yma rwan. Drwy astudio’r brych yn y labordy, gallwn ragdybio iechyd plentyn yn y dyfodol a rhagfynegi os oes ganddynt risg o ddatblygu clefydau pan fyddant yn oedolyn.
Beth yw’r Brych?
Y brych yw organ sydd yn tyfu yng nghroth mam yn ystod beichiogrwydd ac mae’n rheoli datblygiad plentyn drwy drosglwyddo maeth ac oscigen o waed y fam i’r babi, neu ‘ffetws’ fel y mae’n cael ei alw cyn genedigaeth. Mae’n organ fflat a chrwn, gydag un ochr lobiwlaidd sydd yn edrych yn sgleiniog a brown-goch (yr ochr ‘famol’ sydd wedi ei gysylltu â wal y groth), ac ochr arall sydd yn edrych yn fwy glas oherwydd yr holl strwythurau fasgwlaidd ar yr arwyneb (yr ochr sydd wedi ei gysylltu i’r ffetws drwy’r llinyn bogail).
Yn aml, cyfeirir at y brych fel yr ‘ôl-enedigaeth’ ond nid yw pawb yn ymwybodol bod rhaid rhoi genedigaeth i’r brych yn syth ar ôl geni’r babi a thorri’r llinyn bogail – mae’n siwr oherwydd yr holl ryddhad fod y babi wedi ei eni yn saff does dim byd arall o bwys ar ôl y foment honno! Er hyn, ni ddylid dibrisio pwysigrwydd y brych. I ffetws, y brych yw ei beiriant bywyd cyn torri’r llinyn bogail.
Pam fod y brych yn Bwysig?
Mae’r stori yn dechrau, wrth gwrs pan fydd y sberm a’r ŵy yn cyfarfod (ffrwythloniad), i ffurfio clwstwr o gelloedd – chi! Yn aml rydyn ni’n meddwl mai babi yn unig sydd yn deillio o’r ‘clwstwr’ yma ond, mewn gwirionedd, mae rhai o’r celloedd yma yn gwahaniaethu i fod yn frych hefyd. Felly, gallwn ystyried, yn ogystal â’r fam, bod DNA y tad yn y sberm hefyd yn effeithio glasbrint y brych.
Bydd y celloedd sydd wedi eu pennu i fod yn frych yn treiddio drwy wal y groth ac yn ailfodelu y pibellau gwaed er mwyn sefydlu llif gwaed o’ch mam, i chi. Wrth i chi ddatblygu am y naw mis nesaf, mae’r brych yn tyfu gyda chi, a’r gylchred waed yn aeddfedu mewn ffordd reoledig iawn er mwyn addasu faint o faeth yr ydych yn ei dderbyn o waed eich mam fel bod eich tyfiant o dan reolaeth ac ar ei orau.
Er mai dim ond un organ yw’r brych, mae’n gwneud swyddogaeth nifer o organau. Mae’r brych yn trosglwyddo ocsigen i’r ffetws (ysgyfaint), hidlo unrhyw wastraff a heintiau o waed y fam (arennau) ac yn rhyddhau hormonau sydd yn cynnal tyfiant y ffetws a iechyd a chynhyrchiant llaeth yn y fam (chwarennau). Fel rheol, pan fydd ein cyrff yn dod ar draws celloedd sydd yn cynnwys DNA gwahanol i ‘ni’, mae ein system imiwnedd yn ymosod arnynt er mwyn cael eu gwared. Ond yn ystod beichiogrwydd, pan mae gan ffetws gelloedd sydd yn cynnwys DNA gwahanol i’r fam, mae’r brych yn amddiffyn y ffetws rhag system imiwnedd y fam.
Gall y brych hefyd drosglwyddo celloedd bonyn (celloedd anaeddfed sydd â’r gallu i wahaniaethu i unrhyw fath o gell) o’r ffetws i’r fam ac mae’r celloedd hyn yn aros yng nghorff y fam am flynyddoedd
maith. Golyga hyn os oes anaf i unrhyw organ yn y fam yn y dyfodol, bydd celloedd bonyn y ffetws yn gallu teithio i safle yr anaf er mwyn helpu ei wella. Mae hyn yn wir am unrhyw feichiogrwydd, hyd yn oed camesgoriad (‘miscarriage’), ac mae rhywbeth hardd mewn gwybod bod pob un plentyn yn gadael ôl yng nghorff eu mam.
Sut mae’r brych yn ‘rhaglennu’ ein Hiechyd a’n risg o ddatblygu clefydau?
Mae datblygiad y brych yn cael dylanwad uniongyrchol ar ein hiechyd hirdymor. Yn wir, mae gan y ffetws a’r brych berthynas unigryw, gyda chysylltiad cryf rhwng pwysau’r brych a phwysau’r ffetws; o hyn, gallwn ragfynegi risg y plentyn o ddatblygu afiechydon cronig yn y dyfodol. Er enghraifft, mae gan fabi ysgafn/bach ar gyfer ei oedran risg uwch o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd pan fydd yn oedolyn.
Mae deiet mam yn ystod beichiogrwydd hefyd yn effeithio ar ddatblygiad y brych, lle gwelwn newidiadau yn strwythur a phatrymau DNA y celloedd pan fo diffyg fitaminau penodol neu lefelau uchel o siwgr. O ganlyniad, mae afiechydon fel clefyd y siwgr yn gallu effeithio strwythur fasgwlaidd y brych a thrylediad optimaidd ocsigen a maeth i’r ffetws. Dengys hyn y pwysigrwydd o reoli lefelau siwgr optimaidd yng ngwaed mam yn ystod beichiogrwydd.
Wrth ystyried yr holl ffactorau hyn, gellir casglu fod y brych yn lasbrint o iechyd plentyn ac mae ei ddatblygiad yn hanfodol i sefydlu iechyd da drwy gydol oes.
Fy Ymchwil
Mae fy ymchwil i yn canolbwyntio ar sut mae clefyd siwgr yn effeithio ar ddatblygiad ffetws yn ystod beichiogrwydd.
Yn 2021, roedd 537 miliwn o bobl yn byw gyda chlefyd siwgr a nifer o’r rheiny yn fenywod o oedran cenhedlu. Cafodd oddeutu 21.1 miliwn o enedigaethau eu heffeithio gan lefelau uchel o siwgr ac roedd 80.3% o’r rhain oherwydd clefyd siwgr beichiogrwydd (‘gestational diabetes’)1. Gyda chlefyd siwgr beichiogrwydd, bydd y fam yn cael diagnosis o ymwrthedd siwgr am y tro cyntaf rhwng wythnos 24-28 ei beichiogrwydd. Mae plant sydd yn cael eu heffeithio gan glefyd y siwgr y fam yn ystod beichiogrwydd yn cael eu geni yn fawr/drwm ar gyfer eu hoedran ac felly o dan risg uwch o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd yn y dyfodol.
Er mwyn rheoli lefelau siwgr yng ngwaed y fam, mae merched sydd â chlefyd siwgr beichiogrwydd a teip dau yn cymryd cyffur o’r enw ‘metformin’, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio yn amlach nag inswlin gan ei fod yn rhatach ac yn cynnig effeithiau gwell ar gyfer iechyd y fam. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos fod metformin yn cynyddu nifer ybabanod sydd yn cael eu geni yn fach/ysgafn ar gyfer eu hoed, sydd yn awgrymu ei fod yn cyfyngu ar dwf babi ac felly yn cynyddu eu risg o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd yn oedolyn. Yn wahanol i inswlin, gall metformin deithio drwy’r brych ac effeithio ar ei ddatblygiad. Yn benodol, mae fy ymchwil i yn astudio sut mae metformin yn dylanwadu ar brosesau metabolig yn y brych a sut y gall hyn effeithio ar iechyd plentyn yn y tymor hir.
Yn wahanol i unrhyw organ arall yn y corff, mae’r brych yn organ ‘dros dro’ sydd yn cael ei hystyried yn ‘wastraff’ unwaith y bydd wedi cyflawni ei swydd. Ond wrth ddadansoddi tystiolaeth sydd yn dangos effaith y brych ar weddill bywyd, gallwn ddweud yn bendant bod ei stori yn parhau am weddill oes.
- Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.