Roedd awduron canoloesol yn hyddysg yn y grefft o greu a chynnal cenedl. Aethant ati i benderfynu ar y nodweddion a arddangosai wahaniaeth rhwng y genedl dan sylw a chenhedloedd eraill, a phenderfynu hefyd ar bwysigrwydd cymharol y nodweddion hyn. Ymysg y nodweddion sydd yn cael sylw mae enwau, tiriogaethau, ac undod gwleidyddol a chyfreithiol. Yn aml byddai sefydlu hanes hynafol y genedl yn bwysicach na dim. Ond beth am iaith? Mae i’r iaith le blaenllaw yn y rhan fwyaf o drafodaethau ynghylch hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru heddiw. Ac nid yn y byd modern yn unig y ceir y cysylltiad agos hwn rhwng iaith a hunaniaeth.

Dechreuwn gyda’r gair iaith ei hun. Mewn cerdd fawl yn Llyfr Taliesin, honnir bod brenhinoedd pob iaith yn deyrngar i’r Brenin Urien Rheged (‘Dadolwch Urien’, llinell 15). Yma, mae iaith yn gyfystyr â chenedl. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, mae’r cyfreithiau yn gwneud yn glir bod Cymru yn bodoli fel uned ddaearyddol – y tir y tu hwnt i Glawdd Offa – a hefyd fel uned ieithyddol. Gelwir y rhai nad ydynt yn medru’r iaith yn anghyfiaith (‘heb fod o’r un iaith’). Dyma air sydd yn digwydd mewn amrywiaeth o ffynonellau, yn aml i ddisgrifio gelyn. Felly, yn yr Historia Gruffud vab Kenan, bywgraffiad y Brenin Gruffudd ap Cynan (m. 1137) a droswyd o’r Lladin i’r Gymraeg yn y drydedd ganrif ar ddeg, anghyfiaith yw’r Eingl-Normaniaid sydd yn ymosod ar Wynedd.

Ond mae hanes hwy eto i’r cysylltiad rhwng iaith a chenedl yng Nghymru. Yn y nawfed ganrif, aeth clerigwr o’r enw Nennius ati i ysgrifennu hanes y Brythoniaid: Historia Brittonum. Cawn wledd o chwedloniaeth a hanes yma, o wreiddiau honedig y Brythoniaid yng Nghaer Droea i’r brwydro rhwng Gwynedd, Mersia, a Northumbria yn y seithfed ganrif. Canolbwynt y testun yw dyfodiad y Saeson i’r ynys o dan arweinyddiaeth Hengist a Horsa, a’r ffordd yr ânt ati i drechu’r Brythoniaid a’u brenin anffodus, Gwrtheyrn.

Testun Lladin yw Historia Brittonum, ond mae ynddo ymdriniaeth ddiddorol o ieithoedd eraill. Mewn rhai achosion, er enghraifft, rhy Nennius enw lle yn y Gymraeg a’r Saesneg. Felly, gofynna Hengist wrth Gwrtheyrn am rodd o’r ‘ardal a elwir yn eu hiaith nhw Cantwaraland, ond yn ein hiaith ni, Caint’ (Historia Brittonum, pennod 37). Arwyddocaol hefyd yw’r ffordd y mae Nennius yn ei gysylltu ei hun gydag un o’r ddwy iaith: Cantwaraland yw’r enw lle yn eu hiaith nhw (eorum yn y Lladin); Caint yw’r enw lle yn ein hiaith ni (nostra yn y Lladin).

Nid Nennius yw’r unig ysgolhaig canoloesol i gynnig ymdriniaeth ddwyieithog o enwau lleoedd chwaith. Yn 893 aeth Asser, mynach o Dyddewi, ati i gyfansoddi bywgraffiad o’r Brenin Alfred Fawr (m. 899). Tynna Asser ar ffynhonnell Hen Saesneg (yr Anglo-Saxon Chronicle) i adrodd hanes brwydro rhwng y Saeson a’r Llychlynwyr yn y nawfed ganrif, gan blethu hyn gyda storïau o’i brofiad ei hun o weithio yn ysgolhaig yn nheyrnas Wessex. Fel Nennius, cawn nifer o enwau lleoedd mewn mwy nag un iaith. Cyfeiria Asser, er enghraifft, at yr ynys ‘a elwir Thanet yn Saesneg a Ruim yn Gymraeg’ (Buchedd y Brenin Alfred, pennod 9).

Mae’r awduron hyn yn tynnu sylw bwriadol at y gwahanol ieithoedd a siaredid ym Mhrydain yr Oesoedd Canol, felly. Ond maen nhw hefyd yn mynd ati i gysylltu’r ieithoedd hyn â phobloedd. Daw’r enghraifft amlycaf wrth i Nennius adrodd hanes ‘brad y cyllyll hirion’. Dyma’r digwyddiad sydd yn cadarnhau goruchafiaeth y Saeson ym Mhrydain wrth i Hengist a’i ddilynwyr droi ar y Brythoniaid di-arf mewn cynhadledd heddwch. Beth sydd yn ddiddorol o bersbectif iaith yw i Hengist roi’r gorchymyn i’r Saeson ymosod yn Saesneg ac i’r geiriau Saesneg hynny gael eu dyfynnu yn y testun (enimenit saxas ‘tynnwch eich cleddyfau’, pennod 46).

Mewn testun sydd fel arall dim ond yn defnyddio’r Saesneg yng nghyd-destun enwau personol ac enwau lleoedd, mae’r enghraifft hon o ddeialog Saesneg yn arwyddocaol. Wrth i’r Saeson fradychu’r Brythoniaid, mae Nennius yn eu cysylltu gyda’u hiaith. Cawn enghraifft debyg yn Armes Prydein Vawr, cerdd broffwydol o Lyfr Taliesin a gyfansoddwyd yn y ddegfed ganrif. Yma, mae’r bardd yn troi at y Saesneg i ddisgrifio’r Saeson yn ffoi o Ynys Prydain fel llwynogod, ffoxas (llinell 66).

Rhoddir sylw amlwg i iaith yn y testunau hyn, felly. Ac yn benodol, tynnir sylw at y gwahaniaeth ieithyddol rhwng dwy garfan o bobl: y Brythoniaid a’r Saeson. Rhaid pwysleisio mai eu gweld eu hunain yn Frythoniaid a wnâi Cymry’r Oesoedd Canol cynnar. Teyrnasu dros y Brythoniaid (Brittones) oedd Maelgwn, brenin Gwynedd, yn Historia Brittonum, ac mae Nennius yn edrych tu hwnt i ffiniau’r Gymru gyfoes i adrodd hanes brenhinoedd Brythoniaid gogledd Lloegr a de’r Alban – Urien Rheged a’i griw.

Edrycha Asser i gyfeiriad arall. Fe’i penodwyd yn Esgob Sherborne ac mae’n debyg i’w ddyletswyddau gynnwys gwaith eglwysig ymysg Brythoniaid Cernyw. Yn wir, mae’n bosib i rai o’r enwau lleoedd Brythoneg a gawn yng ngwaith Asser ddeillio o’i gysylltiadau gyda siaradwyr Brythoneg yn y de-orllewin yn hytrach nag yng Nghymru. Roedd y genedl hon y perthynai’r Cymry iddi, felly, yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau’r Gymru fodern. Y gwahaniaeth o bwys i Nennius ac Asser oedd rhwng y rhai a ddywedai Caerceri a’r rhai a ddywedai Cirrenceastre, ble bynnag roedden nhw’n byw.

Mae’n debygol mai Asser piau’r clod am ddiffinio Cymru fel uned ddaearyddol am y tro cyntaf. Doedd ei Gymru ef ddim yn deyrnas wleidyddol unedig, dylwn bwysleisio, ond yn glytwaith o deyrnasoedd o dan reolaeth amrywiol frenhinoedd. Beth bynnag, Asser oedd y cyntaf i ddefnyddio Clawdd Offa i wahaniaethu rhwng y clytwaith hwn a theyrnasoedd y Saeson i’r dwyrain. Ond roedd Asser hefyd yn rhoi pwyslais ar iaith, pwyslais a welwyd eisoes yng ngwaith Nennius. Roedd y Brythoniaid yn siarad un iaith, y Saeson iaith arall. Ac roedd hwn yn wahaniaeth nodedig. Hyd yn oed cyn creu Cymru, felly, roedd iaith yn hollbwysig wrth ddiffinio cenedl y Brythoniaid.

 

Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.