Yn dilyn ei ymchwil PhD ym Mhrifysgol Caerdydd i allu technoleg gyfieithu i gyflymu prosesau cyfieithu yn sylweddol a lleihau’r baich gwybyddol i’r cyfieithydd, ac yn dilyn ei ymchwil ddiweddar ar gyfer cyfrol i gyfieithwyr y Gymraeg, mae Ben Screen yn ymateb i’r duedd gynyddol i gredu bod cymhwysedd cyfieithwyr wedi newid yn sylfaenol a bod sgiliau cyfieithu traddodiadol yn prysur fynd yn ddiangen. Mae Ben bellach yn Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg mewn Bwrdd Iechyd.

Newid ar droed

Yr unig beth sy’n gyson am fywyd yw newid medden nhw ac nid yw’r byd cyfieithu’n wahanol. Nid dyma’r lle i drafod yn llawn sut mae Cymru wedi ymateb i ddatblygiadau technoleg yn y byd cyfieithu, ond ymddengys erbyn hyn fod y defnydd o dechnoleg gyfieithu, o leiaf ymhlith rhai yn y sector cyhoeddus, wedi cynyddu. Mae hyn oherwydd bod defnyddio technoleg gyfieithu, fel systemau cof cyfieithu (sy’n cofio cyfieithiadau blaenorol ar lefel y frawddeg/paragraff byr ac yn eu hatgynhyrchu’n awtomatig yn y dyfodol i’r cyfieithydd) a chyfieithu peirianyddol, yn cyflymu cyfieithu. Mae fy ymchwil i wedi dangos bod hyn yn wir ar gyfer y Gymraeg hefyd.[1]

Mae’r gwella parhaus yn allbwn cyfieithu peirianyddol a’r defnydd cynyddol ar systemau cof cyfieithu, a’r gostyngiad o’r herwydd yn swmp y gwaith y mae cyfieithwyr yn ei gyfieithu heb unrhyw fath o gymorth gan destun awtomatig, wedi arwain rhai i gredu bod proffil swydd cyfieithwyr wedi newid yn sylfaenol. Dyma sy’n esbonio sylw Pennaeth Gwasanaethau Cyfieithu a Chofnodi’r Senedd, wrth gydnabod yr angen o hyd am weithwyr cymwys a phroffesiynol, “[…] y dylid ystyried y grefft yn un ychydig yn wahanol – y grefft o ddefnyddio’r sgiliau iaith sydd gennym eisoes i drin data.”[2] Awgryma’r ffaith i’r dyfyniad hwn gael ei gynnwys yn anfeirniadol yn adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg fod y swyddfa honno, o bosibl, yn cytuno. Nid yw hyn yn annhebyg ychwaith i sylw’r Athro Delyth Prys yn 2014 bod y cyfieithydd “[…] yn datblygu yn ôl-olygydd, gan arbed amser ac ymdrech yn dibynnu ar ansawdd y cyfieithu awtomatig a’r parth pwnc penodol”.[3] Awgrym clir arall felly fod newid go sylfaenol i’r rôl wrthi’n digwydd.

Dengys y sylwadau hyn gan ddau arweinydd yn y byd cyfieithu yng Nghymru fod y ddeuoliaeth a welir yn y disgwrs rhyngwladol rhwng ‘cysyniadoliad lleiafsymiol’ o’r rôl (lle mae swydd y cyfieithydd bellach yn bennaf yn un o wirio ac nad yw cyfieithu traddodiadol yn rhan amlwg o’r gwaith) a ‘cysyniadoliad mwyafsymiol’ (lle mae’r sgiliau sydd eu hangen i drin allbwn cyfieithu peirianyddol yn ychwanegol at y sgiliau cyfieithu sydd eu hangen o hyd ac yn wahanol iddynt) i’w gweld yng Nghymru hefyd. A’i dweud yn symlach: Ai swydd ehangach yw hon bellach lle mae angen sgiliau newydd, fel y mae rhai ysgolheigion yn dechrau dadlau, neu swydd fwy cyfyngedig ei chwmpas?[4] Mae’r cwestiwn hwn o’r pwys mwyaf i gyflogwyr, addysgwyr cyfieithwyr ac wrth gwrs i gyfieithwyr presennol a dyfodol y Gymraeg.

Crefft newydd?

Mae cyfieithu peirianyddol wedi gwella’n sylweddol felly, ond i ba raddau? Nid digon, yn sicr, i gyfiawnhau honiadau mai hanfod y swydd bellach yw gwirio allbwn a phrosesu data yn unig, o ble bynnag y daw’r allbwn hwnnw (h.y. o system cof cyfieithu neu gyfieithiad awtomatig i’w gywiro). Mae hyn oherwydd bod allbwn systemau cyfieithu peirianyddol o hyd ar sbectrwm, o’r gwych i’r annealladwy. Er bod yr ansawdd wedi symud tuag at y gwych dros y blynyddoedd, mae’r sbectrwm ansawdd hwnnw yn golygu bod yr ymyriad gan y cyfieithydd i sicrhau cyfieithiad derbyniol hefyd ar sbectrwm, o wneud dim ar y naill ben, i wirio i wahanol raddau yn y canol, a chyfieithu o’r newydd a diystyru’r allbwn yn llwyr ar y pen arall. Agwedd arall ar hynny hefyd wrth gwrs yw newid yr allbwn fel na fydd y cyfieithiad yn rhy lythrennol, hyd yn oed os yw’r cyfieithiad yn dechnegol gywir. Oherwydd hyn, gwelwn mai cysyniadoliad ‘mwyafsymiol’ sy’n gywir wrth dafoli cymhwysedd cyfieithwyr yn y gymdeithas ddigidol sydd ohoni; mae angen sgiliau cyfieithu traddodiadol o hyd ar y cyd â sgiliau newydd i ddefnyddio technoleg gyfieithu. Neu, a dyfynnu’r ysgolhaig adnabyddus yn y maes Michael Carl, ‘More optimistic persons see our interaction with translation tools as a welcome extension of our ability to translate’.[5] Mae Nitke a Hansen-Schirra yn gweld y cymhwysedd newydd sydd ei angen ar gyfieithwyr yn debyg i strwythur tŷ, gyda sgiliau cyfieithu tradoddiadol yn sylfaen a sgiliau newydd i ddelio â chyfieithu peirianyddol a thechnoleg gyfieithu ar ben hynny.[6]

Mae’r brig, ‘Post-editing Soft Skills’, yn cwmpasu diddordeb yn y gwaith a’r agwedd iawn at olygu allbwn o systemau technoleg iaith wrth gyfieithu, a nodweddion seico-ffisiolegol (yn bennaf y gallu i ganolbwyntio am gyfnodau hir a sylw at fanylder) ymysg rhai eraill.[7] Mae ‘error handling’ yn cynnwys y gallu i adnabod gwallau a delio â nhw’n effeithlon heb newid gormod na gadael cyfieithiadau rhy lythrennol. Ni ddylid diystyru hyn; mae meddu ar afael ddigon cadarn ar y ddwy iaith i wybod beth sydd angen ei newid yn y lle cyntaf, a beth sy’n gyfieithiad effeithiol ai peidio, ynghyd â’r gallu i sylweddoli hynny yn gyflym a gwneud y newid yn ddeheuig mewn ymgais i gadw cymaint o’r allbwn â phosibl, yn dasg fedrus iawn ni waeth pa mor gyflym y gellir ei gwneud o gymharu â chyfieithu arferol. Mae ‘MT engineering’ yn cynnwys gwybodaeth am sut mae peiriannau cyfieithu’n cael eu creu, y gwahanol dechnegau sydd ar gael a sut i’w cynnal a’u cadw. Yn olaf, mae ‘consulting’ yn cynnwys gwybod digon i gynnig cyngor am fanteision ac anfanteision technoleg gyfieithu, prisio gwasanaethau cyfieithu lle mae technoleg gyfieithu wedi ei defnyddio, egluro’r risg all fod ynghlwm wrth y camddefnydd o gyfieithu peirianyddol ac egluro sut mae’n gweithio.

Mae hyn oll yn ychwanegol at y cymwyseddau ar gyfer cyfieithu sydd eu hangen o hyd ac, fel rwyf wedi trafod yn fy llyfr a gyhoeddwyd y llynedd, mae cymhwysedd cyfieithwyr yn unigryw ac yn cynnwys sawl cydran.[8] Y rhai pwysicaf yn eu plith yw’r gallu technegol i drosi ystyr o’r naill iaith i’r llall gan ddefnyddio’r technegau priodol (technegau sy’n isymwybodol yn aml i gyfieithwyr profiadol ond sydd heb gael hyfforddiant), y gallu i wneud ymchwil a’r gallu, wrth reswm, i ddefnyddio dwy iaith yn fedrus iawn.[9] Mae ymchwil hefyd wedi dangos yn glir nad yw’r gydran gyntaf ym meddiant pobl ddwyieithog fel arfer, a bod cyfieithwyr profiadol yn gweithio’n fwy effeithlon ac yn fwy strategol na chyfieithwyr lleyg, ac yn creu gwaith gwell.[10]

Model Nitke a Hansen-Schirra uchod yw’r model mwyaf diweddar ond mae sawl cyhoeddiad arall dros y blynyddoedd diweddar wedi trafod hyn.[11] Y pwynt yma yw bod y gallu i gyfieithu a’r gallu i ymdrin ag allbwn technoleg gyfieithu yn plethu i’w gilydd yn hytrach na bod yr olaf yn graddol ddisodli’r cyntaf. Mae’r cyfieithydd cymwys yn manteisio ar y ddau set o sgiliau, yn dibynnu ar ble ar y sbectrwm ansawdd y mae’r allbwm o’r system. Mae cydnabod hyn yn hollbwysig os ydym am gynyddu’r defnydd o dechnoleg gyfieithu er lles y Gymraeg yn fy marn i: prin iawn fydd y bobl a fydd am newid sut maent yn gweithio os credant fod y dulliau newydd o weithio yn ddiraddiad iddynt. Felly, mae cydnabod bod y defnydd o dechnoleg gyfieithu, a chyfieithu peirianyddol yn benodol, yn waith medrus ynddo ef ei hun yn gyfraniad at greu’r awydd hwnnw i newid –  rhan gwbl hanfodol o unrhyw ymgais i sbarduno newid yn y gweithlu cyfieithu.

Arbenigwyr yn y lŵp

Dangosodd fy ymchwil fod technoleg gyfieithu yn cyflymu gwaith cyfieithwyr yn sylweddol heb effaith negyddol ar y cyfieithiad terfynol, a bod y defnydd ohoni yn lleihau’r baich gwybyddol i’r cyfieithydd hefyd. Mae defnydd priodol ohoni felly yn rhan anhepgor o gynyddu faint o Gymraeg sydd yn y tirwedd ieithyddol. Fodd bynnag, nid yw bodolaeth y dechnoleg honno a’i heffaith glir ar lefelau cynhyrchu cyfieithwyr yn golygu mai trinwyr data neu olygyddion tesunau electronig yn unig yw cyfieithwyr bellach, ac nid yw’r defnydd o gyfieithu peirianyddol yn golygu bod y swydd yn llai medrus ychwaith. Yn wir, mae’r datblygiadau technolegol diweddaraf yn golygu bod angen mwy o sgiliau uwch ar gyfieithwyr, nid llai, yn ychwanegol at eu sgiliau cyfieithu traddodiadol. Mae cyfieithwyr cymwys yn ‘arbenigwyr yn y lŵp’ felly, sy’n defnyddio set o sgiliau penodol iawn i wneud y gorau o dechnoleg er lles dyfodol hirdymor yr iaith.

Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i bori ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.

 

Cyfeiriadau

[1] Ben Screen, ‘Effaith defnyddio cofion cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchedd wrth gyfieithu i’r

Gymraeg’, Gwerddon 23 (2017), 10–38; Screen, ‘Productivity and Quality when editing Machine Translation and Translation Memory Outputs: An Empirical Analysis of English to Welsh Translation’, Studia Celtica Posnaniensia 2 (2017), 119–142; Screen, ‘What effect does post-editing have on the translation product from an end-user’s perspective’, The Journal of Specialized Translation 30 (2019), 133–157.

[2] A ddyfynwyd ar dud. 78, Comisynydd y Gymraeg, Sefyllfa’r Gymraeg 2016-2020: Adroddiad 5-Mlynydd Comisiynydd y Gymraeg. Caerdydd: Comisiynydd y Gymraeg. Ar lein: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/media/gc5nyzta/adroddiad-5-mlynedd-cyg20162020-terfynol-20-10-21.pdf. Cyrchwyd: 1/12/2021

[3] Prys, Delyth. 2014. Nodyn Cyngor. Bangor: Unedau Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Ar lein: http://techiaith.bangor.ac.uk/index.php/nodyn-cyngor/. Cyrchwyd: 30/11/21

[4] do Carmo, Félix a Joss Moorkens 2021, Differentiating Editing, Post-editing and Revision, yn Koponen, Maarit, Brian Mossop, Isabelle S. Robert a Giovanna Scocchera (goln), Translation, Revision and Post-editing: Industry Practices and Cognitive Processes. Abingdon: Routledge, tt. 35-50.

[5] Carl, Michael 2018, Moving Translation, Revision and Post-editing Boundaries yn Helle V. Dam, Matilde Nisbeth Brøgger a Karen Korning Zethsen (goln.), Moving Boundaries in Translation Studies (London: Routledge), tt. 64-80.

[6] Nitke, Jean a Silvia Hansen-Schirra 2021, A Short Guide to Post-editing. Berlin: Language Science Press. Ar lein: https://langsci-press.org/catalog/book/319 Cyrchwyd: 29/11/2021

[7]Post-editing’ yw’r term technegol a ddefnyddir ar gyfer newid allbwn o system cyfieithu peirianyddol fel ei fod yn gyfieithiad cywir.

[8] Screen 2021, Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

[9] Chodkiewicz, Marta 2020, Understanding the Development of Translation Competence. Berlin: Peter Lang.

[10] Beeby, Allison, Amparo H. Albir a Mònica Fernández et al., ‘Results of the Validation of the PACTE Translation Competence Model: Translation Project and Dynamic Translation Index’ yn Sharon O’Brien (gol.), Cognitive Explorations of Translation (London: Continuum, 2012), tt. 30–56; Castillo, Luis Miguel, ‘Acquisition of Translation Competence and Translation Acceptability: An Experimental Study, Translation and Interpreting, 7(1) (2015), 72–85;  Ehrensberger-Dow, Maureen a Gary Massey, ‘Indicators of Translation Competence: Translators’ Self-Concepts and the Translation of Titles’, Journal of Writing Research 5(1) (2013), 103–131;  Göpferich, Susanne, ‘The Translation of Instructive Texts from a Cognitive Perspective: Novices and Professionals Compared’ yn Arnt Lykke Jakobsen ac Inger M. Mees (goln), New Approaches in Translation Process Research (Copenhagen: Samfundslitteratur Press, 2010), tt. 5–55;  Göpferich, Susanne, Gerrit Bayer-Hohenwarter, Friederike Prassl a Johanna Stadlober, ‘Exploring Translation Competence Acquisition: Criteria of Analysis Put to the Test,’ yn Sharon O’Brien (gol.), Cognitive Explorations of Translation (London: Continuum, 2012), tt. 57–86;  Jakobsen, Arnt L., ‘Translation Drafting by Professional Translators and by Translation Students’, yn Gyde Hansen (gol.), Empirical Translation Studies (Copenhagen: Samfundslitteratur Press, 2002), tt. 191–204; Jensen, Matilde Nisbeth a Karen Korning Zethsen, ‘Translation of patient information leaflets: Trained translators and pharmacists-cum-translators – A comparison’, Linguistica antverpiensia: New series – Themes in Translation Studies (2012), 31–49;  Karwacka, Wioleta, ‘Quality assurance in medical translation’, The Journal of Specialised Translation 21 (2014), 19–34. Künzli, Alexander ‘Investigating translation proficiency – A study of the knowledge employed by two engineers in the translation of a technicaltext’, Bulleti Suisse de Linguistique Appliquée 81 (2005), 41–56;  Lörscher, Wolfgang ‘Bilingualism and Translation Competence: A Research Project and its First Results’, SYNAPS – A Journal of Professional Communication, 27 (2012), 3–15;   Rosa, Rusdi Noor, T. Silvana Sinar, Zubaidah Ibrahim-Bell ac Eddy Setia, ‘Pauses by Student and Professional Translators in Translation Process’, International Journal of Comparative Literature & Translation Studies (2018), 18–28.

[11] Am drafodaeth gynhwysfawr o’r sgiliau sydd eu hangen i gyfieithu â chymorth cyfrifiadur ac addysgu cyfieithwyr yn benodol, gweler Ginovart, Clara a Carme Colominas Ventura 2021, ‘The MT post-editing skil set: course descriptions and educator’s thought’ yn Koponen, Maarit, Brian Mossop, Isabelle S. Robert a Giovanna Scocchera (goln), Translation, Revision and Post-editing: Industry Practices and Cognitive Processes. Abingdon: Routledge, tt. 226-247.