Mrs Beryl Cooledge a Dr Llinos Haf Spencer o LLAIS (Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth Iaith), sy’n rhan o Uned Dreialon Gogledd Cymru yn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor, sy’n ystyried a yw siaradwyr Cymraeg yn cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal.
Cefndir
Tybiwn bod mwy a mwy o bobl yn dod yn gyfarwydd ag ymchwil mewn gofal iechyd oherwydd digwyddiadau diweddar megis pandemig COVID-19 a hysbysebion ar y cyfryngau am Ymchwil Canser. Mae Llywodraeth Cymru yn annog y boblogaeth i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg (Comisiynydd y Gymraeg/Welsh Language Commissioner, 2022). Ac er mwyn hwyluso hyn o fewn bywyd yng Nghymru, lansiwyd strategaeth “Mwy Na Geiriau” yn 2014 yn wreiddiol (cyn y diweddariadau yn 2016 a 2022) sydd yn rhoi pwyslais ar ddarparwyr gwasanaethau gofal a iechyd cymdeithasol i gynnig darpariaeth yn newis iaith y defnyddiwr (Llywodraeth Cymru, 2017a). Mae strategaeth Cymru Iachach (Llywodraeth Cymru, 2018) yn pwysleisio y pwysigrwydd o ofal sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Pwrpas y gwaith ymchwil yma oedd i weld os yw siaradwyr Cymraeg yn cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal.
Dull
Defnyddiwyd dulliau ansoddol a meintiol yn yr astudiaeth hon. Cynhaliwyd tri grŵp ffocws (dau drwy’r Gymraeg ac un drwy’r Saesneg) gyda chwestiynau oedd wedi cael eu creu gan yr awduron yn cynnwys cynrychiolydd o’r cyhoedd (SL). Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 cafodd bob un o’r grwpiau ffocws eu cynnal ar-lein dros Zoom neu Teams.
Yn dilyn yr ymatebion i’r cwestiynau grwpiau ffocws, cynlluniwyd holiadur ar-lein yn cynnwys cwestiynau am gymryd rhan/peidio cymryd rhan mewn ymchwil. Cafodd yr holiadur ei gylchredeg yn genedlaethol yn Haf 2021 a hyrwyddwyd ef drwy rwydweithiau personol a rhwydweithiau cymdeithasol yn cynnwys Facebook a Trydar. Roedd yr holiadur ar blatfform ‘Forms’, Microsoft Office, ac yn hawdd ei gwblhau ar gyfrifiadur, tabled neu ffôn smart. Nid oedd gwobr ariannol nac fel arall am ymateb i’r holiadur. Roedd bob un ymatebwr yn datgan eu caniatâd i gymryd rhan yn yr ymchwil meintiol drwy lenwi’r holiadur anhysbys.
Canlyniadau:
Holiadur cenedlaethol: Cafodd yr holiadur ar-lein cenedlaethol ei greu yn dilyn y grwpiau ffocws a chafodd ei gwblhau gan n=170 o oedolion drwy Gymru yn cynnwys 82% o fenywod a 18% o wrywod. Yn gyffredinol, dim ond 29% oedd yn fodlon cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal. Y prif resymau dros beidio â chymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal oedd:
- Yn dibynnu ar bwnc yr ymchwil (40%)
- Yr angen am ragor o wybodaeth (32%)
- Ofn i rywbeth fynd o’i le (24%)
“Angen gwybod pwrpas yr ymchwil, a sicrhad ynglŷn â materion diogelu data” – Ymatebydd A
Nid oedd 83% o’r ymatebwyr wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd erioed. Nid oedd 85% wedi clywed am y ‘Cynnig Rhagweithiol’ o’r Gymraeg. Roedd 23% yn ystyried y ‘Cynnig Rhagweithiol’ o’r Gymraeg yn bositif. Nid oedd gan 14% unrhyw farn ar y ‘Cynnig Rhagweithiol’ o’r Gymraeg. Nid oedd 63% wedi clywed am y ‘Cynnig Rhagweithiol’ o’r Gymraeg ac felly nid oedd ganddynt farn arno.
Dywedodd un cyn-nyrs ymchwil:
“…ni allaf bwysleisio pa mor bwysig yw cael opsiynau dwyieithog ar gyfer cyfranogwyr ymchwil. Roedd y gallu i siarad Cymraeg yn bendant wedi helpu i ffurfio perthynas â chlaf wrth recriwtio ar gyfer treial. Roeddwn i’n gallu gweld bod siarad Cymraeg yn amlwg yn eu gwneud y person yn gartrefol – ac wedi eu recriwtio’n llwyddiannus i dreial yn sgil hyn”.
Trafodaeth
Yn dilyn y sgyrsiau grwpiau ffocws, a’r ymatebion i’r holiadur ar-lein, gellir gweld bod sbectrwm o syniadau ar gyfer cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. Roedd pwyslais y gwaith yma ar y Gymraeg mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, ond nid oedd cyfran helaeth o’r ymatebwyr wedi clywed am y ‘cynnig rhagweithiol’ (85%).
Mae dau beth pwysig wedi dod i’r wyneb yn sgil yr holiadur. Yn gyntaf, mae’n syndod nad yw pobl gyffredin yn ymwybodol o’r Cynnig Rhagweithiol ac felly mae angen mwy o ffocws am hyn. Yn ail, mae Llywodraeth Cymru yn credu yn y syniad o Gymru lewyrchus (Llywodraeth Cymru, 2022) lle mae’r boblogaeth yn iach ag yn gysylltiedig, ac yn fwy gwybodus (Llywodraeth Cymru, 2017b). Mae cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal yn gweddu y polisi hwn, felly mae angen gwneud mwy i ddangos i boblogaeth Cymru fod cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal yn holl bwysig ar gyfer bod yn genedl iach a chyfrifol.
Casgliad
Mae lle i wella y ddarpariaeth o ymchwil iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Ond mae hefyd lle i’r cyhoedd i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu iechyd ac i ddod yn fwy gwybodus am eu iechyd eu hunain, a sylwi ar bwysigrwydd ymchwil iechyd.
Mae LLAIS, NWORTH, Prifysgol Bangor yn darparu adnoddau fel LLAIS.org a micym.org ar gyfer ymchwilwyr, ac mae yna angen hysbysebu’r gwasanaeth yma ac ymestyn gwasanaeth LLAIS i holl unedau treialon Cymru ac i wneud y cynnig rhagweithiol yn beth mwy amlwg o fewn y byd ymchwil iechyd.
Cyllid:
Cyllidwyd y gwaith ymchwil yma gan NWORTH, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Moeseg:
Cafwyd caniatâd moesegol i wneud y gwaith hwn gan bwyllgor moeseg yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol Bangor.
Diolchiadau:
Yr Athro Paul Brocklehurst, Cyn-Gyfarwyddwr NWORTH gafodd y syniad gwreiddiol am y gwaith ymchwil a BAC ac LHS roddodd ei syniadau ar waith. Cyfrannodd Stephen Lansdown at lunio y cwestiynau ar gyfer y grwpiau ffocws ac ar gyfer yr holiadur ar-lein, ac adolygodd y fersiwn ddrafft o’r papur hwn a ysgrifennwyd yn bennaf gan BAC ac LHS. Roedd ZH yn olygydd ar y gwaith yn dilyn ymadawiad cyn-Gyfarwyddwr NWORTH.
Cyfeiriadau
Comisiynydd y Gymraeg/Welsh Language Commissioner (2022) Amdanom ni: Amcanion strategol a’n gweledigaeth. Ar gael ar: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/amdanom-ni/amcanion-strategol-a-n-gweledigaeth (Mynediad: 22 June 2022).
Llywodraeth Cymru (2017a) ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.
Llywodraeth Cymru (2017b) Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi. Ar gael ar: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-02/ffyniant-i-bawb-y-cynllun-gweithredu-ar-yr-economi.pdf.
Llywodraeth Cymru (2018) Cymru Iachach: ein Cynllun iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ar gael ar: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-04/cymru-iachach-ein-cynllun-iechyd-a-gofal-cymdeithasol.pdf.
Llywodraeth Cymru (2022) Cymru lewyrchus. Ar gael ar: https://www.futuregenerations.wales/cy/a-prosperous-wales/.
- Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.