Dyma gwestiwn Jon Morris a Katharine Young o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n ymchwilio i sut mae’r defnydd o eiriau Saesneg yn y Gymraeg yn cael ei ddylanwadu gan y neges y mae’r siaradwr yn ceisio ei chyfleu.


Mae gan sawl un ohonon ni farn am gyfnewid cod, sef defnyddio geiriau o un iaith mewn iaith arall. Yng nghyd-destun y Gymraeg, mae termau fel ‘bratiaith’ yn codi’n aml pan fydd rhywun eisiau beirniadu’r defnydd o eiriau ac ymadroddion Saesneg yn y Gymraeg. Mae gwaith ymchwil blaenorol ar y Gymraeg hefyd yn awgrymu bod pobl yn fwy tueddol o feirniadu Cymraeg pobl eraill os oes dylanwad amlwg o du’r Saesneg arni (Robert 2009).

Mae ymchwil ym maes ieithyddiaeth wedi dangos yn glir nad yw cyfnewid cod yn arwydd o ddiffyg ‘gallu’ mewn un o ieithoedd y siaradwr dwyieithog (Thomas a Webb-Davies 2017). Yn hytrach, mae cyfnewid cod yn rhan o leferydd siaradwyr dwyieithog dros y byd ac mae yna nifer o resymau pam mae rhywun yn cyfnewid cod (hyd yn oed os nad ydynt yn ymwybodol ohono).

Mae gwaith arloesol gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi taflu goleuni ar gyfnewid cod yn y Gymraeg. Drwy gymharu faint o weithiau yr oedd cyfnewid cod yn digwydd mewn grwpiau gwahanol o siaradwyr, er enghraifft, darganfu’r ymchwilwyr fod dau grŵp yn fwy tueddol o gyfnewid cod, sef pobl ifainc a/neu bobl sydd wedi caffael y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd yn hytrach nag un iaith ar ôl y llall (Deuchar et al. 2016). Yn ogystal â hyn, dangosodd ymchwil bellach fod cyfnewid cod yn gallu cael ei ddefnyddio i gyfleu teimlad o gydsafiad ac agosatrwydd (gweler y bennod ar ‘Amrywio’ yn llyfr Cooper ac Arman 2020).

Yr astudiaeth

Mewn astudiaeth ddiweddar a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, roedden ni eisiau edrych yn fanylach ar yr hyn sy’n dylanwadu ar gyfnewid cod o fewn sgwrs. Yn hytrach na chymharu grwpiau o bobl o gefndiroedd gwahanol, felly, bwriad y prosiect oedd gweld a yw cyfradd cyfnewid cod yn newid o fewn sgwrs, gan ddibynnu ar yr hyn yr oedd y siaradwr yn ceisio ei gyfleu. Gan ystyried y canfyddiad bod cyfnewid cod yn gallu cyfleu agosatrwydd, er enghraifft, ystyriwyd y cwestiwn a fyddai’r siaradwyr yn cyfnewid cod yn amlach wrth glebran o’i gymharu ag wrth gyflwyno gwybodaeth ffurfiol neu rannu neges o bwys.

Canolbwyntiodd y prosiect ar ddau siaradwr, Llion a Mali (ffugenwau). Daw’r ddau o Ogledd Cymru ond maen nhw bellach yn byw yng Nghaerdydd. Roedd y ddau siaradwr yn eu hugeiniau ar y pryd ac yn gweithio mewn swyddi proffesiynol dwyieithog. Rhoddwyd peiriannau recordio iddyn nhw a gofynnwyd iddyn nhw recordio eu hunain yn siarad mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Ar ôl inni gasglu pum awr o recordiadau gan y ddau ohonyn nhw, aethpwyd ati i ddadansoddi’r data.

Er mwyn dadansoddi’r data bu raid inni edrych ar bob cymal (brawddeg) yn unigol. Roedd 3039 cymal yn nata Llion ac roedd 22.5% o’r cymalau hyn yn ddwyieithog (hynny yw, roedd y cymalau yn cynnwys Cymraeg a Saesneg). Ar gyfer pob cymal, nodwyd y sefyllfa (e.e. cyfarfod, sgwrs anffurfiol), y cyd-siaradwyr (e.e. cyd-weithwyr, ffrindiau), y lleoliad (e.e. cyhoeddus, preifat) a’r math o wybodaeth (Holmes-Elliott a Levon 2017) yr oedd yn cael ei throsglwyddo gan y siaradwr (e.e. clecs, gwybodaeth bwysig). Gan nad oedd Mali yn dueddol o siarad mewn amrywiaeth o gyd-destunau, canolbwyntiwn ar ddata Llion yma.

O edrych ar ganlyniadau Llion yn unig, sy’n gweithio fel darlithydd mewn prifysgol, gwelwn fod cyfnewid cod yn amrywio yn unol â’r gynulleidfa. Dengys y ffigur isod gyfradd y cyfnewid cod a nodwyd gyda chynulleidfaoedd gwahanol. I ryw raddau, mae modd inni ddweud bod Llion yn cyfnewid cod yn llai mewn cyd-destunau ffurfiol. Pan oedd yn siarad o flaen cynulleidfa mewn digwyddiad cyhoeddus, roedd yn cyfnewid cod yn llai aml o’i gymharu â sgwrs â’i ffrindiau.

Y gyfradd cyfnewid cod gyda myfyrwyr sy’n fwy annisgwyl. Gellid disgwyl y byddai mwy o gyfnewid cod gyda ffrindiau gan ystyried mai dyna’r grŵp agosaf ato. Er hyn, gwelwn fod Llion yn cyfnewid cod yn fwy gyda myfyrwyr y mae yn eu dysgu a’u gyfarwyddo. Rydyn ni’n amau bod Llion yn defnyddio cyfnewid cod er mwyn ceisio creu perthynas agosach gyda’r myfyrwyr a cheir yma enghraifft, felly, o sut mae adnodd ieithyddol yn gallu cael ei ddefnyddio er mwyn cryfhau perthnasau.

Gwelwyd hefyd fod cydberthynas rhwng y gynulleidfa a’r hyn yr oedd Llion yn ceisio ei gyfleu o fewn y sgwrs. Dengys y ffigur isod fod y gyfradd cyfnewid cod yn amrywio o fewn pob sgwrs gan ddibynnu ar yr wybodaeth yr oedd yn ceisio ei chyfleu. Yn y ffigur, rydyn ni wedi gwahaniaethu rhwng tri math o wybodaeth, sef cymdeithasu (clebran), disgwrs (e.e. gofyn cwestiynau a cheisio rheoli’r sgwrs), a gwybodaeth (rhannu gwybodaeth bwysig). Gyda phob cynulleidfa, mae’r canlyniadau yn dangos bod Llion yn cyfnewid cod yn fwy aml wrth iddo glebran. Yn benodol, gwelir y ganran uchaf o gyfnewid cod pan oedd yn cymdeithasu gyda myfyrwyr.

Y casgliadau

Beth mae’r canlyniadau hyn yn eu hawgrymu, felly? Am y tro cyntaf mae modd inni weld sut mae’r hyn mae siaradwr yn ceisio ei gyfleu yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae’n defnyddio ei ddwy iaith. Mae’r canlyniadau hyn yn cefnogi’r gwaith blaenorol sy’n dangos mai system gymhleth yw cyfnewid cod sy’n cael ei defnyddio gan siaradwyr i atgyfnerthu’r hyn y maen nhw’n ceisio ei gyfleu. Yng nghyd-destun y Gymraeg, mae’r canlyniadau yn dangos bod y gynulleidfa a’r math o wybodaeth (sy’n amrywio o fewn un sgwrs) yn gallu effeithiol yn uniongyrchol ar gyfradd cyfnewid cod siaradwyr dwyieithog.

Adnodd yw cyfnewid cod, felly, sy’n cael ei ddefnyddio gan siaradwr mewn ffordd unigryw ac amrywiol er mwyn creu teimlad o agosatrwydd.