Mae gwaith ymchwil Brooke Martin, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn datgelu fod y docu-opera cyntaf erioed wedi ei chyfansoddi gan Gymro yn 1914 – tua saithdeg mlynedd cyn opera John Adams Nixon in China. Ond beth yw opera ddogfen (docu-opera) a pham fod darganfyddiad Brooke mor arwyddocâol?
Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, genre o fewn opera yw opera ddogfen . Mae’n gosod pwyslais arbennig ar newyddion cyfoes, pynciau llosg, a realaeth y byd o’n cwmpas trwy gyfrwng operâu. Cafodd y term ei fathu yn ystod yr 1990au i ddisgrifio operâu sydd yn trin a thrafod digwyddiadau diweddar mewn hanes. Enghreifftiau yw ymweliad yr Arlywydd Nixon â Tsieina yn 1972 yn opera John Adams Nixon in China (a berfformwyd am y tro cyntaf yn 1987) neu Anna Nicole (2011) gan Mark-Anthony Turnage, sy’n adrodd hanes a bywyd trasig yr actores a’r model Anna Nicole Smith. Defnyddir enwau eraill i bwysleisio elfen ddogfennol, newyddiadurol opera ddogfen, megis CNN opera.
Fel arfer, clywir y term mewn perthynas â chyfansoddwyr Americanaidd cyfoes megis John Adams ac Anthony Davis, ond fe geir enghreifftiau diweddar gan gyfansoddwyr Cymreig hefyd, megis The Roswell Incident (1997) gan John Hardy (am y chwedlau a’r dyfalu ynghylch damwain honedig cerbyd arallfydol) neu opera olaf Alun Hoddinott, Tower, a berfformiwyd yn 1999 yn adrodd hanes achub Glofa’r Tŵr.
Credir fod yr opera ddogfen yn genre newydd ym myd opera, ond y gwir amdani yw fod cyfansoddwyr wedi ymddiddori yn y syniad o drafod pynciau cyfoes yn eu hoperâu ers dechrau’r ugeinfed ganrif, ac mae’n bosib mai’r un gyntaf erioed oedd The Flooded Mine and Royal House gan T. Glyndwr Richards, opera a gyfansoddwyd yn 1914!
Fe ddes i ar draws yr opera yma fel rhan o fy ngwaith ymchwil i operâu Cymreig a gyfansoddwyd rhwng 1878 a 1928. Mae’r cyfnod yn ymestyn o’r opera gyntaf yn y Gymraeg – Blodwen gan Joseph Parry – i hanner canrif yn ddiweddarach. Credir na chyfansoddwyd llawer o operâu ar ôl premiere Blodwen, ond y gwir amdani yw fod y cyfnod hwn yn un toreithiog iawn ym maes opera yng Nghymru – ac rwyf wedi dod o hyd i dros 40 o operâu Cymreig yn ystod y cyfnod dan sylw, ac rwy’n parhau i ddarganfod mwy.
Trychineb Tynewydd
Beth sydd yn gwneud The Flooded Mine yn opera ddogfen avant la lettre, felly?
Roedd testun T. Glyndwr Richards ar gyfer The Flooded Mine and Royal House yn agos at galon y cyfansoddwr, gan fod trychineb Glofa Tynewydd wedi digwydd tua 30 mlynedd ynghynt, yn 1877, ac felly roedd yn fyw yng nghof nifer fawr o bobl yr ardal.
Ar 11 Ebrill, 1877, driliodd criw o lowyr Glofa Tynewydd i mewn i hen gloddfa oedd yn llawn dŵr. Roedd rhaid i 14 glöwr ddringo’r siafft awyr i ddianc rhag y dŵr, ond fe aethon nhw’n sownd dan ddaear. Gan feddwl eu bod nhw’n mynd i farw, dyma nhw’n dechrau canu’r emyn In the Deep and Mighty Waters.
Clywodd y bobl y tu allan i’r pwll glo eu lleisiau ac fe aethant ati’n syth i’w hachub. Roedd honno’n broses beryglus.
Ar ôl 11 diwrnod o waith caled, cafodd pump glöwr eu hachub ond bu farw’r naw arall. Rhoddodd y Frenhines Fictoria Fedal Albert i’r pedwar achubwr – y tro cyntaf i’r wobr gael ei chyflwyno am achub bywydau ar dir sych.
Perfformiadau
Beth am yr opera ei hun? Perfformiwyd hi o leiaf dair gwaith. Does dim gwybodaeth am y perfformiad cyntaf ond mae hysbysebion ym mhapurau newydd y cyfnod yn dweud mai’r tro cyntaf i’r opera gael ei pherfformio yng ngorllewin Cymru oedd yn Nyfnant ar 13 a 24 Rhagfyr 1914. Cafodd yr opera ei pherfformio nifer o weithiau yng Nglyn-nedd ym mis Chwefror 1916 hefyd.
Mae’n hawdd meddwl fod digwyddiadau celfyddydol wedi stopio pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 ond cynhaliwyd nifer o gyngherddau elusennol ledled Cymru i gefnogi ymdrech y rhyfel. Er enghraifft, aeth elw’r tocynnau o berfformiadau The Flooded Mine at helpu ffoaduriaid o Wlad Belg.
Pwy oedd T. Glyndwr Richards?
Pwy oedd y cyfansoddwr? Yn 1895, penodwyd T. Glyndwr Richards yn arweinydd y côr meibion enwog o Aberpennar, Mountain Ash Male Voice Choir. Bu’n eu harwain am ddegawdau, ac fe ddaeth y côr yn enwog ledled Cymru a thu hwnt o dan ei arweiniad.
Mae’n bosib fod Richards wedi cyfansoddi’r opera yn bennaf ar gyfer ei gôr. Dim ond un llais merch sydd yn yr opera, sef y Frenhines Fictoria (soprano). Fodd bynnag, doedd ‘na ddim llawer o gymeriadau benywaidd yn hanes y trychineb beth bynnag, ac mae’r opera – fel pob opera ddogfen arall mewn gwirionedd – yn ceisio bod yn ffeithiol gywir.
Un peth arall sydd yn gwneud The Flooded Mine yn wahanol i nifer o operâu Cymreig y cyfnod yw ei bod yn defnyddio cerddorfa lawn. Roedd llwyfannu gweithiau cerddorol mawr gyda cerddorfeydd llawn yn anodd yng Nghymru ar yr adeg yma. Roedd cynnwys cerddorfa lawn ar ben yr holl elfennau eraill – cantorion, actorion, props, a’r holl waith o lwyfannu opera – yn awgrymu bod yna gefnogaeth fawr o du’r gymuned i sicrhau llwyddiant y perfformiadau.
Beth am yr arddull gerddorol? Gan ddefnyddio’r llawysgrif o’r sgôr cerddorol sydd wedi ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, es ati i chwarae trwy rai adrannau o’r gwaith ar y piano. Mae’r gerddoriaeth yn swnio’n eithaf modern am y cyfnod. Mae yna grefft yn perthyn i’r trefniant cerddorfaol ac mae’n amlwg bod T. Glyndwr Richards yn gerddor talentog.
Ond ai opera ddogfen sydd yma mewn gwirionedd? Mae’n opera arbennig am ei chyfnod. Dydy hi ddim yn ffuglennol. Dydy hi ddim yn sieliedig ar stori neu chwedl fel y rhan fwyaf o operâu y cyfnod. Mae’r stori hon am y Cymry gan y Cymry. Mae’n rhan o hanes Cymru.
Efallai fod y prawf pennaf i’w weld mewn hysbyseb papur newydd ar 22 Rhagfyr 1914, sy’n disgrifio’r opera fel: ‘A realistic representation of the miner’s daily peril and heroism.’ Roedd trasediau fel yr hyn ddigwyddodd yng Nglofa Tynewydd yn 1877 yn beth cyffredin yn Ne Cymru. Ond roedd troi’r drasiedi yn opera yn beth anghyffredin. Fe newidiodd hynny gydag opera T. Glyndwr Richards…
Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon – gwerddon.cymru – i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.