Rhybudd i deithwyr yn Sir Gaerfyrddin

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio am amodau gyrru gwael yn Sir Gaerfyrddin.

Maen nhw’n rhybuddio pobol i fod yn ofalus oherwydd bod dŵr ar yr A48 rhwng Llanddarog a Chaerfyrddin, ac i osgoi’r ardal os oes modd.

Brexit: trafodaethau masnach am barhau, medd Ursula von der Leyen

Daw sylwadau Llywydd Comisiwn Ewrop yn dilyn trafodaethau â Boris Johnson

Darllen rhagor

Logo Heddlu'r De yn siap helmed

Dynes wedi marw yng Nghaerdydd

Y gwasanaethau brys wedi’u galw i drosffordd Gabalfa am oddeutu 2.45yb

Darllen rhagor

Y tu mewn i'r ty gwydr

Yr Ardd Fotaneg yn cau eu drysau o yfory (dydd Llun, Rhagfyr 14)

“Rydym wedi gorfod cau oherwydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru”

Darllen rhagor

Tîm rygbi Cymru am glywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghwpan y Byd 2023

Bydd timau’n cael eu trefnu yn ôl y rhestr ddetholion 11 mis yn ôl cyn ymlediad y coronafeirws

Darllen rhagor

Jonathan Bartley, 36, ar goll o Gaerfyrddin

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ddyn 36 oed sydd ar goll o Gaerfyrddin.

Does neb wedi gweld Jonathan Bartley ers yn gynnar fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 13).

Ar y pryd, roedd e ar Heol y Bragdy.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

 

Byddai Brexit heb gytundeb “yn drychinebus i Gymru a’r Deyrnas Unedig”

Byddai rhyw fath o gytundeb “yn well na dim” yn ôl Jeremy Miles

Darllen rhagor

Caffis Cymru: Y Sied yng Nghaerfyrddin

gan Bethan Lloyd

Fe gymerodd tri chynnig cyn i Lisa Fearn wireddu ei breuddwyd i agor caffi –  mae’r gogyddes deledu ac awdur hefyd yn rhedeg ysgol goginio

Darllen rhagor

Arlywydd yr Unol Daletihiau yn areithio ac yn pwyntio'i fys

Donald Trump yn colli achos llys yn Wisconsin

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau’n dal i frwydro ar ôl colli’r etholiad arlywyddol

Darllen rhagor

Brechlyn pfizer

Coronafeirws: dechrau brechu preswyliaid cartrefi gofal yr Alban yfory (dydd Llun, Rhagfyr 14)

Staff y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn y brechlyn ers dydd Mawrth (Rhagfyr 8)

Darllen rhagor