ENW LLAWN: Debbie Jones
DYDDIAD GENI: 8/9/1977
YN BYW: Sir Fôn
Mae Debbie Jones o Sir Fôn yn gweithio fel gweinyddes ar yr ynys ac yn caru ei swydd. Does dim yn well ganddi na darllen nofelau James Patterson, mynd am dro a gwneud coctêls. Cafodd ei magu yn un o bump o blant.
“Fe wnes i fagu fy mrodyr a chwiorydd a gadael adref yn 16 oed. Rwy’n credu bod fy mhlentyndod a’m profiad o dyfu i fyny fel oedolyn wedi fy ngwneud i yn fi. Dw i bob amser yn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddaf yn gwneud fy siopa Nadolig ar ddydd San Steffan. Rydw i bob amser yn chwilio am fargeinion ac mi fydda i wastad yn paratoi ar gyfer pen-blwyddi fisoedd a misoedd ymlaen llaw – mae’r awydd i gynllunio a pharatoi wedi fy arwain i baratoi ar gyfer diwedd y byd.”
Fe ddechreuodd Debbie baratoi at ddiwedd y byd yn ystod Covid-19.
“Roedd gweld beth oedd yn mynd ymlaen yn y byd yn agoriad llygad, ac mi ddechreuais i feddwl oedd yna rywbeth y gallwn i ei wneud i mi a fy mhlant. Felly, dechreuais gasglu a pharatoi ar gyfer diwedd y byd.
“Prynais fagiau bwyd ffoil Myler. Mi fedrwch chi roi pecynnau ocsigen ynddyn nhw, a bydd bwyd yn cadw am hyd at 30 mlynedd, yn dibynnu ar beth rydych chi’n ei roi ynddyn nhw. Rydw i wedi rhoi reis, pasta, ffrwythau a llaeth sych ynddyn nhw. Mae gen i lawer o fwyd a dŵr. Rydw i wedi prynu bwced dŵr enfawr. Rydw i wedi prynu ychydig o rucksacks hefyd. Mae ganddyn nhw bethau fel cwmpawd, mapiau, chwibanau a matsis ynddyn nhw. Mae gen i radio llaw panel solar a goleuadau solar a batris. Mae gen i ffliwtiau dŵr, fel y gallwch chi yfed dŵr llygredig a bydd yn hidlo yn yr holl amhurdebau allan. Mae gen i hefyd fygydau nwy, stôf fach a generadur nwy a phetrol.”
Mae unigolion sy’n paratoi at ddiwedd y byd yn casglu a pharatoi ar gyfer digwyddiadau trychinebus posibl, boed yn drychinebau naturiol, cwymp economaidd neu argyfyngau eraill. Nod Doomsday preppers, fel maen nhw’n cael eu hadnabod, yw sicrhau eu bod yn goroesi ac yn medru bod yn hunangynhaliol yn wyneb y fath ddigwyddiadau annisgwyl.
Mae Debbie yn dweud y byddai’n ofni i eraill fanteisio ar ei nwyddau a’i holl baratoi mewn sefyllfa o’r fath. Mae ganddi fwyell a gwrthrychau miniog y gallai eu defnyddio i amddiffyn ei hun a’i theulu petai angen gwneud hynny mewn sefyllfa o argyfwng.
“Mae gen i masking tape a darnau mawr o blastig y galla i ddefnyddio i orchuddio a selio ffenestri a drysau,” meddai, cyn dweud bod ganddi hefyd ïodin rhag ofn bod achos o ymbelydredd fel y gallai ei gymryd i atal yr ymbelydredd rhag cael ei amsugno i’r corff. Mae hi hefyd wedi gofalu bod ganddi fwyd wrth gefn ar gyfer ei dau gi.
“Mae gen i hefyd stoc o gyffuriau. Dim byd gan y meddygon. Eitemau antiseptig, rhwymynnau, plasteri, poen laddwyr ac eitemau meddygol eraill”.
Brenhines y partïon
Pan nad yw’n paratoi at ddiwedd y byd, un o brif ddiddordebau Debbie yw gwneud coctêls.
Mi ddechreuodd y diddordeb mewn coctêls 16 neu 17 mlynedd yn ôl, pan oedd Debbie yn byw gyda’i chyn-ŵr ym Mhortiwgal.
“Roedd fy ngŵr yn gwneud coctêls i mi. Roeddwn i’n eu caru nhw. Pan ddes i yma, dechreuais wneud rhai fy hun. Byddwn i’n treialu’r hyn oedd yn gweithio dros y blynyddoedd ac yn trio gwahanu y gwahanol liwiau,” meddai.
Mae Debbie wedi datblygu ei diddordeb mewn coctêls drwy droi ei hystafell sbâr yn y tŷ yn far coctêls.
“Mae yna deledu yno, goleuadau disgo, bluetooth speaker a bwrdd dartiau. Mae yna far go iawn, silffoedd gyda llwyth o wydrau, alcohol, oergell a pheiriant rhew. Mae gen i hefyd soffa sy’n troi i mewn i wely, byrddau bar, cadeiriau bar a stôl bar; popeth sydd ei angen arnaf i gael parti go iawn, a dw i wedi cael digon ohonyn nhw yno efo ffrindiau”.
Mae’n dweud ei bod hi wedi cael partïon thema Hawaii, Casino, Calan Gaeaf, partïon pen-blwydd a phob math o bartïon eraill yno, gyda choctêls amrywiol mae’n eu gwneud i ffrindiau a theulu.
Petai’n cael gwireddu unrhyw freuddwyd, gwneud yn siŵr bod ei phlant yn hapus a diogel fyddai hynny, meddai, ac yn ddelfrydol, hoffai hi fod yn berchen ar ei busnes ei hun.
“Rwy’ bob amser wedi meddwl y byddwn i’n dda am fod yn gynllunydd partïon/priodasau, ac mi fyddwn i wrth fy modd bod yn berchen ar le coctêls fy hun, neu fecws fy hun,” meddai.
Petai amser a bywyd yn caniatáu, hoffai hi hefyd “weld y byd a pharhau i greu atgofion” gyda theulu ac anwyliaid.