Enw llawn: Dave Roberts

Dyddiad geni: Rhagfyr 1971

Man geni: Bryste (ond yn byw ym Mhontywaun)


Ychydig filltiroedd i’r gogledd o Gasnewydd, ym mhentref tawel Pontywaun, mae cartref perchennog amgueddfa eithaf unigryw.

Dave Roberts yw perchennog a churadur y ‘Morbitorium’. Do, mi ddarllenoch chi’n gywir. Morbitorium. Mae’r amgueddfa yn llawn hynafolion rhyfeddol â hanes iasol a thywyll. Mae’n bosibl profi obsesiwn degawdau o hyd ag arswyd, yr ocwlt, y goruwchnaturiol a’r macâbr yno.

Fe ddechreuodd diddordeb Dave mewn arswyd yn yr 80au – yn rhannol gyda’i obsesiwn yn darllen llyfrau Stephen King ac yn gwylio ffilmiau arswyd oedd wedi’u gwneud yn rhad yn y siopau rhentu fideo lleol.

“Roeddwn i hefyd i mewn i gerddoriaeth metel trwm, ac roedd lot o’r bandiau hynny (y rhai da, beth bynnag) yn defnyddio llawer o themâu marwolaeth ac arswyd,” meddai.

Bu Dave yn gweithio am dros 30 mlynedd ym mron pob maes cyfrifiadura, gan gynnwys rhaglennu a chymorth technoleg, ond am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw roedd yn hyfforddwr.

“Maen nhw’n dal i fod yn sgiliau defnyddiol iawn i’w cael hyd yn oed nawr oherwydd fy mod i’n gallu gwneud fy ngwefan fy hun ac wedi awtomeiddio llawer o bethau yma yn yr amgueddfa, ac mae’r profiad hyfforddi wedi talu ar ei ganfed ar gyfer cynnal dosbarthiadau a gweithdai yn y Morbitorium,” meddai.

Tro ar fyd

Ond fe newidiodd popeth yn 2018, ar ôl iddo brynu’r tŷ drws nesaf i’w bartner.

“Yn sydyn, roedd llawer mwy o le arddangos ar gael ac fe dyfodd y casgliad i’r pwynt lle’r oedd hi’n wirion peidio â gadael i bobol eraill ddod i’w weld,” meddai.

“Allwn i ddim ond agor ar benwythnosau bryd hynny oherwydd bod gen i swydd ddyddiol, ond tyfodd pethau’n raddol o’r pwynt hwnnw nes i mi fynd yn llawn amser ddwy flynedd yn ôl. Mae’r lle wedi newid yn aruthrol ers hynny a phan dwi’n gweld atgofion Facebook yn codi prin dwi’n adnabod y lle.”

Mae’r amgueddfa unigryw yn llawn hynafolion rhyfeddol ac yn frith o hanes macâbr.

‘Paun hybrid ac offer meddygol lobotomi’

“Mae gen i Chester – yr aderyn dodo/paun hybrid,” meddai wedyn.

“Mae’n debyg mai dyna’r ffordd orau i’w ddisgrifio gan ei fod yn llawer mwy o faint nag y byddech chi’n ei ddychmygu. Dychmygwch baun sydd wedi bwyta paun arall , neu dodo sy’n mynd i barti gwisg ffansi. Byddai paun cyffredin yn braf i’w gael ond mae Chester yn aderyn un-o’i-fath a dwi’m yn credu y byddai fyth yn dod o hyd i un arall tebyg iddo, a dyna pam rwy’n ei garu gymaint.”

Mae ganddo hefyd lawer o offer meddygol hynafol yn deillio o oes Fictoria, a hen bethau fel calipers coes polio ac offer lobotomi.

“Mae’r offer meddygol lobotomi wir yn atgoffa rhywun mor greulon oedd triniaethau iechyd meddwl yn arfer bod, ac nid mor bell yn ôl chwaith.”

Mae pethau eraill hefyd yn cael eu harddangos fel cymalau clun artiffisial, prostheteg ddeintyddol, a sleidiau microsgop o sbesimenau amrywiol.

Mae’n ailgynhyrchu neu fowntio anifeiliaid hefyd, ac mae ei gasgliad yn cynnwys cath, mochyn daear a chwningen.

‘Gweddillion dynol a phennau babis’

“I fyny’r grisiau yw lle rwy’n cadw fy holl weddillion dynol,” meddai Dave Roberts wedyn.

“Mae gen i nifer o benglogau, cewyll asennau, esgyrn cefn ac esgyrn coesau ac ati ond yn anffodus ni allaf arddangos y rhain yn yr amgueddfa oherwydd bod angen trwydded arbennig i wneud hynny. Mae’n hollol iawn ar gyfer casglu preifat, ond mod i’n methu a’u harddangos yn gyhoeddus.

“Mae gen i hefyd y ‘wal byrddau ouija’ eiconig yn yr amgueddfa. Mae llawer o bobol sy’n ymweld â’r amgueddfa yn tynnu eu lluniau o flaen y wal hon.”

Ond hyd yn oed mewn casgliad mor amrywiol, mae rhai eitemau sy’n sefyll allan fel rhai sydd hyd yn oed yn fwy anghyffredin.

“Am ychydig roedd gen i sbesimen gwlyb babi dau ben go iawn yma. Roeddwn i’n ei adfer ar gyfer cleient, ac roedd hi gen i am ychydig fisoedd wrth i mi aros i’r perchennog ei chasglu. Nesi fethu’r darn gymaint ar ôl iddo fynd, mi benderfynais wneud pen babi ffug mewn jar i gysuro fy hun.”

Mae’r Morbitorium hefyd yn cynnal gweithdai a dosbarthiadau rheolaidd dan arweiniad eu gwrach breswyl, Delphi Nile, gwrach brofiadol ac archoffeiriad Wiccan sy’n cynnal amrywiaeth eang o gyfamodau ledled y de.

Yn ôl Dave, mae’r “rhan fwyaf o bobol leol” yn cefnogi’r amgueddfa.

“Mae’r amgueddfa yn rhoi ein pentref bach ar y map. Y Morbitoriwm yw’r trydydd atyniad mwyaf poblogaidd yng Nghaerffili ar hyn o bryd,” meddai.

Serch hynny, dyw pawb ddim yn gefnogol, fel yr eglura.

“Mae yna bob amser un neu ddau o bobl sy’n gwrthwynebu neu’n beirniadu’r amgueddfa heb wybod beth sy’n digwydd yma yn iawn. Rydyn ni’n tueddu i gael llythyr drwy’r drws bob Calan Gaeaf yn dweud y dylen ni droi at yr arglwydd. Fe ges i e-bost yn ddiweddar yn dweud wrtha i fy mod i’n mynd i uffern. Ond, dw i ddim yn ei gymryd yn bersonol – mae doli voodoo dda yn tueddu i fedru eu sortio allan!”