Mae cynhyrchydd teledu wedi creu band dychmygol sy’n cynnwys  ‘Bam Bam Meredith’ ar y drymiau a ‘Tom Helsinki’ ar y gitâr…

Hiraethu am yr 1980au mae cerddor o Gaerffili gyda’i broject unigol cyntaf.

Yn gynhyrchydd teledu sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, Aled Mills yw Y Nos, ac mae newydd ryddhau ei albwm gyntaf, Neon yn y Nen, ac wedi creu band dychmygol i hyrwyddo’r caneuon.