Portread o Alis Huws

Ychydig iawn o bobol sydd â swydd mor unigryw â Thelynores Frenhinol Cymru.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae Alis Huws wedi bod yn delynores i Dywysog Cymru a thros yr haf bydd y gwaith hwnnw yn dod i’w derfyn.

Hyd yma yn ei gyrfa mae’r ferch o Sir Drefaldwyn wedi teithio i ben arall y byd gyda’r delyn, ac wedi chwarae yn ystod coroni’r Brenin Charles flwyddyn yn ôl yng nghwmni cerddorion o fri.