Mae Nic Parry o’r farn mai’r fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Croatia oedd y “perfformiad gorau gan Gymru” ers Ewro 2016. Huw Bebb fu’n ei holi…

Ydy’r Cymry am lwyddo i wneud yr hyn oedd yn edrych yn amhosibl cyn y penwythnos diwethaf a chymhwyso yn unionsyth ar gyfer Ewro 2024?

Rydym ni o leiaf nawr yn gwybod yr hyn sydd angen i ni ei wneud – ennill yn erbyn Armenia oddi cartref a threchu Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a byddwn ni ar ein ffordd i’r Almaen.