Os oedd rygbi’n gyffredinol am gael hysbyseb i ddangos pa mor gyffrous  ac annisgwyl mae’r gêm yn gallu bod, doedd dim angen edrych ymhellach na rownd wyth olaf Cwpan y Byd.

Pedair gêm llawn digwyddiad, llawn tensiwn lle’r oedd y canlyniad yn y fantol tan y chwiban olaf.

O flaen llaw roedd hi’n amhosib proffwydo gydag unrhyw sicrwydd pwy fyddai’n fuddugol ac fe brofodd y gemau mor dynn a chystadleuol â’r disgwyl.