Mae hi drosodd, mae’r Ceidwadwyr wedi mynd, ond does yna ddim gorfoledd. Yn hytrach, teimlad o ryddhad sydd bod y 14 mlynedd galed ddiwethaf wedi dod i ben. Fodd bynnag, yn ei sgil cawsom yr hyn mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn ei disgrifio fel “yr etholiad mwyaf anhafal erioed”, a hawdd gweld pam.