Pan fydda i yn clywed pobol Llanberis a Niwbwrch yn sôn am y llanast a’r tagfeydd traffig a’r hasl mae gor-dwristiaeth yn ei greu, mi fydda i yn meddwl: ‘Chwarter canrif ers datganoli, a faint elwach ydy’r Cymry yn eu gwlad eu hunain?’

Yn aml fedar y bobl yma ddim parcio tu allan i’w tai… efallai fod hynny’n swnio’n beth pitw i chi, ond trïwch ddychmygu dod adre’ ar ôl diwrnod o waith a gorfod ymbalfalu liw nos am wagle i’ch cerbyd am bod criwiau lu wedi gosod eu ceir yn un rhesiad tu allan i’r Airbnb.

A phan fydda i yn clywed y Ceidwadwyr a’u mêts yn edliw am dreth dwristiaeth bitw sydd am wneud ffasiwn ddifrod honedig, mi fydda i yn meddwl: ‘Pathetic’.

(Cofiwn y Ceidwadwyr yn y 1990au yn gwrthwynebu cyflwyno’r isafswm cyflog – y minimum wage. Roedden nhw yn proffwydo dinistrio’r economi, ond fe lwyddodd byd busnes i addasu a thalu cyflogau teg heb i’r drefn gyfalafol ddymchwel – ac mae’r isafswm cyflog wedi hen ennill ei blwy’).

Mae Llywodraeth Cymru am roi’r hawl i gynghorau sir godi £1.25 y noson ar ymwelwyr i aros mewn llety, a 75 ceiniog ar y rheiny sy’n campio neu yn aros mewn hostel.

Gadewch i ni ddweud y plaendra – dyma swm pitw, a fydda ei ddyblu fo ddim yn cael unrhyw effaith ar y diwydiant ymwelwyr.

Mae’r dreth i’r rhai fydd yn aros mewn gwesty moethus 40 ceiniog yn llai na phris stamp dosbarth cyntaf, sef £1.65… ac mi fydd y dreth am noson mewn pabell yn rhatach na stamp ail ddosbarth, sef 85 ceiniog.

Bu rhai yn honni na fydd y cynghorau sir yn gwario’r arian ddaw o’r dreth newydd ar gadw’r ardaloedd poblogaidd yn lân ac ati… ond mae’r cynghorau eisoes allan o boced wrth iddyn nhw orfod cyflogi swyddogion diogelwch i gadw trefn ar lefydd megis Llyn Padarn, lle bu llanast eto’r Haf hwn.

Ac ym mhentref bach Llanbêr mae’r trigolion lleol yn gwirfoddoli i godi sbwriel y fisitors, a bu sawl stori yn Golwg am garthion dynol ar y stryd fawr.

Mae’n amlwg i grwban dall fod angen mwy o doiledau cyhoeddus a glanhawyr cyflogedig yn y pentref, a dyna lle mae’r dreth dwristiaeth yn dod fewn.

Ond y sdincar go-iawn ydy hon: ni fydd modd codi’r dreth tan 2027, ar y cynharaf.

Pam y ffasiwn oedi pan mae yna ardaloedd hardd yng Nghymru sydd eisoes yn gwegian dan bwysau gor-dwristiaeth?

Hefyd, mae’r dreth ar waith mewn dinasoedd megis Manceinion yn Lloegr a gwledydd lu fel yr Almaen, Sbaen, Portiwgal, Gwlad Groeg.

Felly pam y ffasiwn oedi yma yng Nghymru?

Yng ngeiriau Geraint Jarman: ‘Gwesty Cymru, does neb yn talu…’