Mae rhieni yn pwyso am gael ysgol uwchradd newydd Gymraeg yn ne Caerdydd.

Ond mae Arweinydd y cyngor sir yn dweud “nad dyma’r amser cywir” ac y gallai ysgol newydd gostio £80m…

Mae rhieni a phlant yn galw am ysgol uwchradd newydd Gymraeg i wasanaethu de Caerdydd.

“Deffrwch!” oedd eu neges mewn protest tu allan i neuadd y cyngor sir am wyth o’r gloch fore dydd Iau diwethaf.